Uwch Gynghrair Cymru: Aberystwyth 2-2 Y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
Uwch Gynghrair Cymru

Nos Wener, 16 Hydref: Aberystwyth 2-2 Y Seintiau Newydd

Llwyddodd Aberystwyth i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Goedlan y Parc nos Wener.

Y Seintiau Newydd aeth ar y blaen yn gyntaf, gyda Louis Robles yn rhwydo ei seithfed gôl o'r tymor wedi 37 o funudau.

Brwydrodd Aberystwyth yn ôl, gyda Jonathan Foligno yn sgorio o ganlyniad i gic rydd ar ôl 64 munud.

Am gyfnod aeth Aberystwyth ar y blaen o 2-1 yn dilyn gôl gan Steff Davies wedi 71 munud o'r chwarae.

Ond deng munud yn ddiweddarach fe rwydodd chwaraewr canol cae Y Seintiau Newydd Ben Clark, gan unioni'r sgôr.

Cafodd Tom Holland ei hel o'r cae ar ôl derbyn cerdyn coch am drosedd yn erbyn Veale wedi 90+1 munud, ond doedd dim digon o amser yn weddill i Aberystwyth fanteisio ar y gwahaniaeth mewn niferoedd yn y munudau olaf.

2-2 oedd y sgôr terfynol ar Goedlan y Parc, ac fe fydd cefnogwyr y tîm cartref yn fodlon iawn gyda'r canlyniad yn erbyn y clwb sydd ar frig y gynghrair.