Caerffili: Dyn wedi'i arestio yn dilyn marwolaeth menyw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 42 oed o Gaerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw.
Cafodd corff y fenyw, 43, ei ganfod mewn eiddo ar Dol-Yr-Eos yn y dref am 00:10 fore Sul.
Mae swyddogion Heddlu Gwent yn parhau yn yr ardal.
Maen nhw'n ymchwilio ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.