Mwy o alw am wasanaeth cymuned Krishna Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun elusennol sy'n dosbarthu bwyd i bobl anghenus yn y de yn dweud eu bod wedi darparu mil o brydau'r dydd yn ystod y cyfnod clo yn gynharach eleni.
Mae Food for Life yn gynllun gan y gymuned Krishna yng Nghaerdydd, ac wedi bod mewn bodolaeth ers ugain mlynedd yn gweithio gydag elusennau eraill.
Ar ddechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth fe ddechreuon nhw ddosbarthu bwyd yn uniongyrchol i deuluoedd ac unigolion yn y brifddinas a thu hwnt.
"Yn ystod y cyfnod clo, r'on ni wedi gweld bod na alw am fwyd, achos o'dd pobl yn methu gadael eu cartrefi i brynu bwyd" meddai Ellis, sy'n aelod o'r gymuned Krishna yng Nghaerdydd ac yn gweithio gyda'r elusen.
Ar ei anterth roedd mil o brydau'n cael eu dosbarthu chwe niwrnod yr wythnos, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond hefyd i rannau eraill o'r de fel Y Barri, Casnewydd, Caerffili ac Abertawe.
'Cyfle i helpu'
Mae'r elusen yn dibynnu ar dîm o hyd at 40 o wirfoddolwyr - yn eu plith mae Llio Owen sy'n dod o Ben Llŷn yn wreiddiol, ond sydd wedi symud i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol ac wedi penderfynu helpu Food for Life ar ôl gweld eu manylion ar facebook.
"On i newydd raddio ac yn ei ffeindio hi'n anodd dod o hyd i swydd. Felly do'n i ddim eisiau eistedd o gwmpas y tŷ, ac o'n i eisiau gwneud rhywbeth i helpu pobl eraill. O'n i'n gweld hwn yn gyfle arbennig i helpu pryd bynnag o'n i'n gallu - dwywaith neu dair yr wythnos."
Un arall sy'n gwirfoddoli gyda'r cynllun yw Gethin Jenkins-Jones o Gaerdydd. Fe ddechreuodd e weithio gyda Food for Life ar ôl dychwelyd o'r brifysgol ym mis Gorffennaf.
"Dwi'n rili mwynhau e'. Mae'n beth rili dda i'r gymuned, creu bwyd i'r llai ffodus. Dwi'n bwriadu dod yma yn weddol gyson am y dyfodol agos."
Mae gwaith y gwirfoddolwyr yn gallu amrywio o helpu i baratoi'r bwyd, ei bacio neu ei ddosbarthu o amgylch y ddinas a thu hwnt.
Disgwyl mwy o alw
Bellach mae Food for Life yn datblygu safle yn un o ganolfannau siopa Caerdydd lle bydd modd i bobl gasglu prydau bwyd.
Ac wrth i Gymru wynebu cyfnod clo cenedlaethol byr, a dim golwg bod cyfnod y pandemig ar fin dod i ben, mae'r gwirfoddolwyr yn disgwyl bydd y galw am wasanaeth yr elusen yn parhau am dipyn eto.
"Mae'n bwysig bod na wasanaeth fel 'ma ar gael, yn enwedig oherwydd mae'n mynd yn oerach a'r gaea' yn dod. Da ni'n rhoi pryd o fwyd cynnes i bobl... dwi'n rhagdybio bydd y galw yn mynd yn uwch yn y cyfnod nesa'" meddai Llio Owen.
"Fydden i ddim yn synnu pe bai'r fath brosiect â hyn yn mynd ymlaen am sbel", meddai Gethin Jenkins-Jones.
"Dyw pobl ddim yn mynd i gael swyddi, neu fynd at y lefel oedden nhw (cyn y pandemig) yn y dyfodol agos, felly dwi'n dychmygu bydd hyn yn parhau am fisoedd - os nad blynyddoedd," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020