'Rhowch roddion y cwrdd diolchgarwch i'r banc bwyd'

  • Cyhoeddwyd
Fruit and vegetablesFfynhonnell y llun, Thinkstock

Yn unol â rheolau'r pandemig mae natur cyrddau diolchgarwch yn dra gwahanol eleni ac mae Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru yn annog pobl i roi y rhoddion arferol i'r banc bwyd lleol.

Yr arferiad yw mynd â'r rhoddion i gartref gofal neu eu dosbarthu ymhlith plwyfolion.

Ond wrth i'r defnydd o fanciau bwyd gynyddu, dywed llefarydd bod y galw am fanciau bwyd yn "adlewyrchu'r caledi dybryd y mae cymaint o deuluoedd yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd diweithdra, annigonolrwydd budd-daliadau a chyflogau gwael".

Dywed Ymddiriedolaeth Trussell eu bod wedi dosbarthu 1.9 miliwn o becynnau bwyd yng ngwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - 134,646 yng Nghymru.

Pecynnau tridiau yw'r rhain sydd yn helpu pobl i ymdopi mewn argyfyngau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am fanciau bwyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae'r defnydd o fanciau bwyd wedi cynyddu 74%.

Dywed Anna Jane Evans, sy'n weinidog ar gapel Seilo yng Nghaernarfon ei bod yn credu ei fod yn syniad da.

Ddydd Sul bydd capeli Caernarfon yn cynnal gwasanaeth diolchgarwch ar y cyd ym maes parcio Morrisons yn y dre.

"'Dan ni'n mynd i gael gwasanaeth drive-in," meddai Anna Jane Evans.

"Bydd e'n dechrau am ddau yn y pnawn ond mae anogaeth i bobl gyrraedd yn eu ceir ryw ugain munud cyn hynny.

"Bydd pobl yna yn aros yn eu ceir ac yn gallu morio canu gan na fydd peryg iddyn nhw ledaenu unrhyw germs.

"Mae'n siŵr bod rhai pobl yn teimlo eleni nad oes llawr i ddiolch amdano yng nghyfnod Covid ond mae yna gymaint o bethau i'w dathlu ac mae'r weithred o ddiolch yn ein codi. Mae cyfrannu i'r banc bwyd yn rhan o'n cyfrifoldeb ni," ychwanegodd Ms Evans.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Eglwysi Caernarfon

Mae aelodau a ffrindiau capel Tabernacl, Efail Isaf wedi rhoi rhestr o bethau y maen nhw am ddiolch amdanyn nhw ar gân.

Dywedodd Huw Meredydd Roberts, awdur a pherfformiwr y gân ei fod wedi gofyn i aelodau'r capel ar y cyfryngau cymdeithasol i roi rhestr iddo o'r hyn y maen nhw wedi bod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

'Diolch am fîns ar dost'

"O fewn dim," meddai, "roedd yna ddwsinau o syniadau wedi dod gan aelodau o bob oed.

"Roedd rhai yn diolch am neiniau a theidiau, eraill am wyrion, eraill am iaith a diwylliant ac eraill yn diolch am ddrws cefn y tŷ ac am fîns ar dost. Roedd yna eraill yn diolch am encil tawel.

"Mae pethau bach wedi dod yn fwy pwysig i ni yn ystod y cyfnod yma - mae'r cyfarwydd rywsut yn cynnig cysur.

"O gael rhestr mor faith, 'nes i benderfynu roi'r cyfan at ei gilydd ac fe wnaeth Bethan Mai o'r band gynnwys ei darnau hi a dyma ni'n ei chyhoeddi hi," meddai Huw Meredydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Huw M

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Huw M

"Dwi wedi cael ymateb rhyfeddol - i ddweud y gwir dwi erioed wedi cael ymateb tebyg o'r blaen. Mae'n rhaid bod y testun wedi taro tant," ychwanegodd.

Bydd mwy am y stori hon ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul am 12:30.