Rheilffyrdd Cymru 'ar fin cael eu gwladoli'

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd KeolisAmey gytundeb pum mlynedd gwerth £15bn yn 2018 i redeg gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau

Mae yna alw am atebion gan Lywodraeth Cymru yn sgil adroddiadau fod cytundeb rheilffyrdd Cymru ar fin cael ei wladoli.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Telegraph, mae disgwyl i weinidogion drosglwyddo gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau i ddwylo cyhoeddus fore Iau.

Y cwmni preifat KeolisAmey sydd wedi bod yn gyfrifol am y cytundeb ar ran y corff cyhoeddus, Trafnidiaeth Cymru ers Hydref 2018.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates yn gwneud cyhoeddiad ddydd Iau.

Mae'r model newydd yn ganlyniad cwymp sylweddol yn niferoedd teithwyr yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd Trafnidiaeth Cymru'n gwneud mwy o'r gwaith dyddiol o ran darparu gwasanaethau rheilffordd gan gynnwys rhedeg y trenau.

Dywedodd Andrew RT Davies, Aelod o'r Senedd Ceidwadol yn etholaeth Canol De Cymru, bod yr adroddiadau "unwaith yn rhagor yn tanlinellu'r niwed economaidd anferthol sy'n cael ei achosi gan coronafeirws, ac yn gyhoeddiad pwysig eto fyth, yn anffodus, fydd yn osgoi unrhyw fath o graffu yn Senedd Cymru".

Ychwanegodd fod rhanbarth Canol De Cymru yn draddodiadol yn un o'r ardaloedd ble mae'r defnydd mwyaf o'r rheilffyrdd yng Nghymru a "bydd nifer o gwestiynau y bydd yn rhaid i weinidogion eu hateb i leddfu pryderon".

"Y lleiaf y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud yw cyhoeddi datganiad ysgrifenedig brys cyn cyfarfod pwyllgor craffu'r Prif Weinidog brynhawn fory," meddai.

'Angen eglurhad brys'

Mae llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd wedi gofyn am "eglurhad brys a datganiad i'r Senedd... ynghylch unrhyw gynlluniau i drosglwyddo gwasanaethau rheilffordd i Drafnidiaeth Cymru, ynghyd â goblygiadau ariannol y fath gam".

Ychwanegodd: "Dylai'r fath gyhoeddiadau gael eu gwneud yn ein Senedd yn gyntaf, yn hytrach na'u briffio i'r wasg. Yn sicr, ni ddylai'r egwyl sydd ar fin digwydd fod yn rhwystr i graffu yn y Senedd.

"Mae Plaid Cymru wastad wedi dadlau y dylai ein rheilffyrdd gael eu rhoi yn nwylo cyhoeddus a bod y llywodraeth yn rhoi teithwyr o flaen elw."

Ychwanegodd: "Mae'n gam mawr gyda goblygiadau pellgyrhaeddol. Pan gafodd y cytundeb yma ei greu fe ofynnodd Plaid Cymru a oedd modd i Trafnidiaeth Cymru redeg y gwasanaeth yn ogystal â'i gomisiynu.

"Ond i wneud penderfyniad mor bellgyrhaeddol gyda goblygiadau ariannol, fe ddylai hynny fod wedi cael ei ddatgan i'r Senedd fel bod yr aelodau wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â chostau a sut mae Trafnidiaeth Cymru'n mynd i symud o gorff sy'n comisiynu gwasanaethau i'w rhedeg nhw."

Ffynhonnell y llun, TfW

Mae gwladoli gwasanaethau rheilffordd Cymru'n gwneud synnwyr, yn ôl Yr Athro Stuart Cole, athro emeritws trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

"Roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn rhoi cymhorthdal i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru - tua £230m o gost cyfanswm o £360m," meddai.

"Bydd y cam, o bosib, yn gwneud hi'n haws i Lywodraeth Cymru wireddu ei nod hirdymor o ddatblygu gwasanaeth trafnidiaeth hollol integredig i Gymru."

'Dim llawer o newid i deithwyr'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, ychwanegodd Yr Athro Cole: "Fydd pobl ddim yn gweld llawer o newid.

"Y gobaith yn y flwyddyn nesa yw y bydd yr holl system docynnau yn newid.

"Er enghraifft os am deithio o Aberystwyth i Gaerdydd ar drafnidiaeth gyhoeddus fe allwch chi gael bws Traws Cymru i Gaerfyrddin yna trên Trafnidiaeth Cymru i Gaerdydd. Un tocyn fydd ar gael ac fe fydd amserau yn ffitio mewn o un gwasanaeth i'r llall.

"Bydd gweinidogion yn gallu edrych yn llawer mwy manwl ar beth mae teithiwr eisiau."

Mae cofnodion Tŷ'r Cwmnïau'n dangos fod cwmni wedi ei sefydlu yn gynharach eleni dan yr enw Wales Operator of Last Resort Limited.

Prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, gafodd ei gofrestru fel cyfarwyddwr y cwmni, a newidiodd ei enw i Transport for Wales Rail Limited ar 16 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru [Ken Skates] yn cyhoeddi cyfres o fesurau yfory i warchod gwasanaethau i deithwyr trên, cadw swyddi, a chynnal momentwm prosiect y Metro, yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws sy'n mynd rhagddo."

Mae KeolisAmey wedi cael cais am sylw.

Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Brian Meechan

Mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch model newydd o ran rhedeg rheilffyrdd Cymru.

Bydd trenau a gorsafoedd yn parhau ag enw Trafnidiaeth Cymru, sef corff hyd braich Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl y bydd KeolisAmey'n dal yn rhan o'r gwaith cyflenwi gwasanaethau a bydd yn parhau i fod â chyfrifoldeb am draciau.

Does dim disgwyl i'r newidiadau olygu llawer o wahaniaeth i deithwyr, er bod potensial am drafferthion yn sgil newid mor sylfaenol yn y trefniadau.

Does dim disgwyl i'r newid effeithio ar staff.

Mae datrys problem gwasanaethau rheilffordd, sydd yn colli arian o ganlyniad cwymp niferoedd teithwyr yn ystod y pandemig, wedi bod yn fater o bwys i'r diwydiant ers misoedd lawer ar draws y DU.

Bu trafodaethau a fyddai gweithredwyr yn Lloegr yn "dychwelyd y goriadau" gan orfodi gwladoli'r rheilffyrdd i bob pwrpas.

Fodd bynnag, daeth gweithredwyr yn Lloegr i gytundeb gyda Llywodraeth y DU a welodd mwy o gyllid brys ar gyfer delio gyda'r argyfwng coronafeirws.