Cwmni'n cael dirwyon o £2.3m am wasanaethau trên gwael

  • Cyhoeddwyd
Trên yng ngorsaf Cyffordd LlandudnoFfynhonnell y llun, TfW
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dirwyon yn cael eu hailfuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd

Mae'r cwmni sy'n rhedeg gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru, KeolisAmey, wedi cael dirwyon o £2.3m am berfformiad gwael.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates bod y dirwyon yn "hanfodol" i sicrhau gwelliannau, a bod y cwmni heb gyflawni'r hyn sydd yn eu cytundeb.

Ychwanegodd bod rhaid adeiladu ar welliannau diweddar.

Mae'r cwmni, sy'n gyfrifol am y gwasanaethau ers yr hydref, wedi cael cais am ymateb.

Cytundeb

Mae'r cytundeb gyda KeolisAmey yn cael ei reoli o ddydd i ddydd gan Trafnidiaeth Cymru - corff hyd braich Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn darparu brandio'r gwasanaethau trên.

Cafodd teithiau eu canslo yn ystod mis Rhagfyr wedi i amserlen newydd ddod i rym. Dywedodd y cwmni mai prinder staff oedd yn gyfrifol am hynny.

"Hyd yma, mae rhybuddion cosb o tua £2.3m wedi eu cyflwyno i KeolisAmey," meddai Mr Skates wrth bwyllgor economi'r Cynulliuad.

Dywedodd y bydd yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd.

Disgrifiad o’r llun,

KeolisAmey sy'n rhedeg gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru ers Hydref 2018

Dywedodd Vikki Howells, AC Llafur dros Gwm Cynon, wrth y pwyllgor ei bod wedi clywed am etholwyr oedd wedi wynebu achosion disgyblu yn eu gwaith am fod yn hwyr, a'u bod wedi colli cyflog ac wedi gorfod gwario arian ychwanegol i deithio ar fysus wedi'r trafferthion diweddar.

Mewn ymateb, dywedodd Simon Jones, cyfarwyddwr isadeiledd economi Llywodraeth Cymru, fod y cytundeb gyda'r cwmni'n defnyddio mesurydd o "amser teithwyr oedd wedi ei golli", ac roedd elfen o hyn wedi golygu dirwyon i'r cwmni.

Ychwanegodd fod y mesurydd yn canolbwyntio ar y teithiau mwyaf prysur - gan greu mwy o broblem i'r cwmni os oedd trafferthion yn ystod oriau brys.

Dywedodd Mr Skates fod y ganran o drenau oedd yn cyrraedd o fewn tri munud i'r amser cywir wedi gwella o 6% yn y "cyfnod diweddaraf".

Roedd bellach wedi cynyddu i 76.1% meddai, gyda'r targed yn 77%.

'Hanfodol i berfformiad'

Er nad oedd am orchymyn cwmnïau i dalu dirwyon, esboniodd "fod hyn yn rhywbeth gwbl hanfodol er mwyn hybu gwell perfformiad ac i sicrhau fod teithwyr yn gwybod fod arian yn cael ei ddychwelyd pan nad yw perfformiad cystal â'r hyn sy'n ddisgwyliedig".

Dywedodd wrth y pwyllgor fod cymal yn y cytundeb fyddai'n galluogi'r llywodraeth i ddod a'r cytundeb i ben os byddai angen.

"Petai na fethiant yn y dyfodol wrth gwrs fe fydde'n rhaid i ni ymateb yn y dull priodol drwy edrych ar y cytundeb", ychwanegodd.

Fe wnaeth AC Llafur dros Gaerffili, Hefin David, groesawu'r dirwynon, gan ddweud: "Rwyf wedi derbyn sicrwydd gan Drafnidiaeth Cymru fod pethau am wella yn 2020 ac fe fyddai'n monitro hyn fel aelod o'r pwyllgor ac yn fy etholaeth."