Gall myfyrwyr orfod hunan-ynysu i ddod adref i'r Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr

Mae cyfnod o hunan-ynsyu yn cael ei ystyried fel ffordd o alluogi myfyrwyr prifysgol i ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig, meddai'r gweinidog addysg.

Dywedodd Kirsty Williams bod hynny'n "flaenoriaeth", a bod cydweithwyr "ar draws y DU" yn edrych ar nifer o opsiynau i sicrhau fod myfyrwyr yn gallu mynd adref.

Wrth siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Iau, dywedodd bod angen cadw mewn golwg iechyd myfyrwyr, eu rhieni neu ofalwyr, a'r gymuned ehangach.

Mae disgwyl i holl lywodraethau'r DU drafod y mater ymhellach dros y dyddiau nesaf.

Dychwelyd oedd y penderfyniad cywir

Er yr anawsterau ynghylch prifysgolion, dywedodd Ms Williams ei bod yn hyderus mai caniatáu i fyfyrwyr fynd yn ôl i gampysau ar ddechrau'r tymor oedd y penderfyniad cywir.

Dywedodd y byddai peidio â gadael i fyfyrwyr ddychwelyd wedi cael "effaith sylweddol" ar eu lles.

"Does yr un penderfyniad yn hawdd, ac rydw i wastad yn feddylgar o iechyd meddwl myfyrwyr," meddai.

"Mae'n iawn fod myfyrwyr wedi cael dychwelyd i brifysgolion ar gyfer cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymdrechion prifysgolion Cymru i reoli clystyrau."

Dywedodd y gweinidog nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch arholiadau ysgolion yn 2021.

Dywedodd ei bod yn aros am argymhellion adolygiad a chyngor gan gyrff eraill cyn penderfynu ar arholiadau TGAU a Safon Uwch.

"Mae'n allweddol ein bod yn clywed gan ddysgwyr wnaeth sefyll arholiadau eleni a'r rheiny fydd yn gwneud hynny'r flwyddyn nesaf er mwyn dysgo o'u profiadau cyn gwneud penderfyniad terfynol.

"Fe fydda i yn cyhoeddi diweddariad ar arholiadau'r flwyddyn nesaf ar ddydd Mawrth, 10 Tachwedd."

Wrth roi diweddariad ar achosion ymhlith disgyblion, dywedodd bod y rhan fwyaf o ysgolion heb weld achos o fewn y tair wythnos diwethaf.

Mewn bron i dri chwarter o ysgolion - 1,152 - does dim achos wedi bod, meddai.

"Mae hynny'n 74% o ysgolion sydd heb gael unrhyw achosion ym mis Hydref.

"Ble mae achosion wedi dod i'r amlwg, mae'r mwyafrif llethol o'r rheiny wedi bod yn un achos yn unig, ac mae tua 10% ble mae dau achos neu fwy."