Y Trysorlys yn addasu Cynllun Cefnogi Swyddi gweithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi rhagor o gymorth o dan y cynllun cefnogi swyddi fydd yn disodli'r cynllun ffyrlo presennol pan ddaw i ben ar 31 Hydref.
Mewn cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Rishi Sunak y byddai'r nifer o oriau sydd angen eu gweithio er mwyn bod yn gymwys am gymorth y Cynllun Cefnogi Swyddi yn gostwng o 33% i 20%.
Bydd cyfraniad cyflogwyr at gyflogau gweithwyr am weddill yr amser oedd heb ei weithio yn gostwng i 5% hefyd.
Yn flaenorol y bwriad oedd fod y llywodraeth a chyflogwyr yn talu traean o gyflog gweithiwr yr un am yr amser oedd heb ei weithio.
O dan y drefn newydd fe fydd modd i berson sydd yn gymwys hawlio'r cymorth os ydynt ond yn gweithio un dydd yr wythnos.
Fel enghraifft, dywed Llywodraeth y DU y byddai gweithiwr sydd yn derbyn £587 am yr oriau nad ydynt heb weithio yn derbyn cyfraniad o £543 gan y llywodraeth, a "dim ond £44 gan eu cyflogwr".
Bwriad y newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Iau ydy ysgafnhau'r baich ariannol ar gyflogwyr a galluogi mwy o weithwyr i hawlio'r cymorth, medd y llywodraeth.
Wrth gyhoeddi'r addasiad i'r Cynllun Cefnogi Swyddi, dywedodd Rishi Sunak: "Rwyf bob amser wedi dweud bod yn rhaid i ni fod yn barod i addasu ein cefnogaeth ariannol wrth i'r sefyllfa ddatblygu, a dyna beth rydyn ni'n ei wneud heddiw.
"Mae'r newidiadau hyn yn golygu y bydd ein cefnogaeth yn cyrraedd llawer mwy o bobl ac yn amddiffyn llawer mwy o swyddi.
"Gwn fod cyflwyno cyfyngiadau pellach wedi gadael llawer o bobl yn poeni amdanynt eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau. Rwy'n gobeithio y gall cefnogaeth y llywodraeth fod yn rhan o'r ymdrech o'r wlad yn tynnu at ei gilydd yn ystod y misoedd nesaf."
Bydd busnesau bach a chanolig yn gymwys ar gyfer y cynllun ond bydd rhaid i fusnesau mawr ddangos fod eu trosiant wedi gostwng yn ystod yr argyfwng.
Bydd modd i gyflogwyr ddefnyddio'r cynllun newydd hyd yn oed os nad oedd eu gweithwyr ar y cynllun ffyrlo yn barod, ac fe fydd y cynllun newydd yn bodoli am chwe mis.
Roedd pryder y gallai degau o filoedd o weithwyr wynebu diweithdra unwaith y byddai'r cynllun ffyrlo yn dirwyn i ben.
Yn ôl y ffigyrau hyd at ddiwedd Gorffennaf eleni, roedd 15% o'r gweithwyr oedd yn gymwys ar gynllun ffyrlo yng Nghymru - gyda 12% yn derbyn y cymorth llawn a 3% yn derbyn cymorth yn rhannol.
Ymysg y sectorau oedd fwyaf dibynnol ar y cynllun oedd y celfyddydau, hamdden, lletygarwch, bwyd a diod, a manwerthu.
Cafodd y cynllun ffyrlo ei greu er mwyn atal cynnydd sylweddol mewn diweithdra pan fu'n rhaid i ddiwydiannau cyfan gau yn y cyfnod clo cenedlaethol ym mis Mawrth.
Roedd yn talu 80% o gyflogau gweithwyr oedd ar y cynllun, hyd at gyfanswm o £2,500 y mis.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans bod mesurau'r Canghellor yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond bod lefel y cymorth ddim yn mynd yn ddigon pell i sicrhau incwm priodol i weithwyr.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd cyflogwyr ar eu colled o dan y cynllun newydd hwn o gymharu â'r hyn roedden nhw'n ei gael o dan y Cynllun Cadw Swyddi," meddai.
Ychwanegodd fod y cymorth Llywodraeth Cymru ei hun i fusnesau sy'n gorfod cau o ganlyniad i'r cyfnod atal byr "yn dal i fod yn fwy hael na'r hyn a ddarperir yn Lloegr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020