Pryder y bydd pobl yn cefnu ar eu cŵn wedi'r cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau anifeiliaid yn pryderu y bydd pobl yn cefnu ar eu cŵn am amryw o resymau yn sgil y pandemig.
Yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth fe wnaeth nifer y bobl oedd yn chwilio ar-lein am gŵn gynyddu bum gwaith, gan arwain at bryder y gallai rhai brynu cŵn anaddas.
Yr enw ar gyfer yr arfer yma ydy 'dogfishing' - pan mae pobl yn credu eu bod yn prynu ci iach o'r DU ond mewn gwirionedd mae'n gi sydd wedi'i fagu ar fferm cŵn bach dramor, ac maen nhw'n aml â phroblemau iechyd.
Mae elusennau hefyd â phryder y bydd rhai pobl yn anwybyddu eu hanifeiliaid am fod cymaint o deuluoedd yn cael trafferthion ariannol oherwydd y pandemig.
Achub 453 o gŵn
Mae RSPCA Cymru wedi cael eu galw i achub 453 o gŵn oedd wedi'u canfod heb berchnogion eleni.
Dywedodd yr elusen nad yw'r ffigyrau wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig, ond maen nhw'n poeni y gallai'r trafferthion ariannol sy'n cael ei achosi i nifer oherwydd coronafeirws arwain at fwy o achosion ddiwedd y flwyddyn.
"Ry'n ni'n poeni wrth i'r dirwasgiad daro y gallwn ni weld mwy o gŵn yn dod i'n gofal neu yn cael eu gadael heb berchnogion," meddai'r arbenigwr ar les cŵn, Dr Samantha Gaines.
"Mae ein neges yn syml - gwnewch lawer o ymchwil i ddod o hyd i'r anifail anwes iawn i'ch teulu chi, a pheidiwch â gwneud penderfyniad ar frys."
Mae'r RSPCA hefyd yn poeni y bydd mwy o deuluoedd yn cefnu ar eu cŵn os fydd eu hymddygiad yn gwaethygu wrth i drefn ddyddiol y teulu newid pan fydd y cyfyngiadau'n llacio.
Mae nifer yr ymweliadau â thudalen ymddygiad cŵn ar wefan yr RSPCA wedi dyblu dros y misoedd diwethaf, meddai Dr Gaines.
Yn ôl elusen Dog's Trust, fe wnaeth nifer y teuluoedd sy'n cefnu ar eu cŵn gynyddu 25% yn ystod dirwasgiad economaidd 2008, ac maen nhw'n paratoi am sefyllfa debyg dros y misoedd nesaf.
Maen nhw hefyd yn poeni bod nifer o berchnogion newydd yn debygol o fod wedi cael eu twyllo i brynu cŵn fydd yn datblygu problemau iechyd.
Ers mis Mawrth mae Dog's Trust wedi achub 140 o gŵn bach oedd wedi cael eu cludo i'r DU yn anghyfreithlon o ddwyrain Ewrop er mwyn cael eu gwerthu.
Oherwydd y cynnydd ym mhrisiau cŵn yn ystod y pandemig, mae'r elusen yn amcangyfrif y byddai'r cŵn wedi gallu cael eu gwerthu am gyfanswm o £266,000.
Dywedodd gweithwyr yr elusen eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i achub unrhyw gŵn sydd angen cymorth, ond eu bod hwythau wedi cael eu "taro'n wael gan y pandemig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020