Pro14: Benetton 3-10 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd y Scarlets i gipio buddugoliaeth mewn gornest ddiflas yn y glaw yn Treviso, er iddyn nhw orffen y gêm gyda 14 dyn ar ôl cerdyn coch am dacl beryglus.
Profodd cais hwyr gan Paul Asquith yn dyngedfennol yn y diwedd, ond bu'n rhaid i'r ymwelwyr fyw ar eu nerfau yn y munudau olaf wedi i Morgan Jones gael ei anfon o'r cae am dacl uchel.
Roedd hi'n 3-0 i'r tîm cartref ar yr hanner, a chicio tactegol ac amddiffyn di-ildio oedd y nodweddion amlycaf.
Roedd yr ail hanner yn debyg iawn i'r cyntaf tan y 10 munud olaf pan ddaeth y gêm yn fyw wedi'r cais a'r cerdyn coch.
Bonws arall oedd bod cefnwr Cymru, Liam Williams, wedi dod drwyddi'n ddiogel yn ei gêm gyntaf ers rhai misoedd yn dilyn anaf.