Rygbi: Ffrainc 38-21 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Romain Ntamack o Ffrainc yn colli'r bêl wedi tac gan GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Romain Ntamack o Ffrainc yn colli'r bêl wedi tacl gan Gymru

Colli wnaeth Cymru yn erbyn Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ym Mharis.

Roedd hi'n ddechrau cryf a chyflym gan Gymru. Manteisiodd y cochion ar gamgymeriad cynnar gan Ffrainc a chroesodd Leigh Halfpenny yn y munudau cyntaf. Rhoddodd y trosiad a'r gic gosb o droed Dan Biggar ddeg pwynt o fantais iddynt yn fuan iawn.

Ond daeth Ffrainc yn ôl gydag ymosodiadau cyflym ac Antoine Dupont yn cael gêm arbennig iawn.

Er fod Cymru yn dal eu tir roedd ambell gamgymeriad yn rhoi cyfleoedd i'r gleision a daeth tri chais iddynt, un i Cyril Baille a dau i Dupont.

Gyda troed sicr Romain Ntamack yn sicrhau'r trosiad bob tro roedd gan Ffrainc un pwynt ar hugain erbyn hanner amser ac wedi cic gosb arall gan Biggar roedd y sgôr yn 21-13.

Parhaodd y chwarae bywiog yn yr ail hanner gyda Ffrainc yn chwarae gyda chyflymder a hyder newydd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna record newydd i Alun Wyn Jones nos Sadwrn ym Mharis

Roeddynt yn arbennig o ymosodol yn ardal y dacl a hynny yn ei gwneud hi'n anodd i Gymru gael pêl gyflym. Cafwyd cic gosb lwyddiannus yr un yn nechrau'r ail hanner, ond fe fethodd Biggar ddwy gic gosb arall.

Roedd Cymru yn parhau i ymosod ond fe gollwyd y bêl yng nghanol ymosodiad a daeth i ddwylo Dupont. Gwibiodd hwnnw drwy'r crysau cochion gan basio'r bêl i'r capten Charles Ollivon a sgoriodd o dan y pyst.

Ond nid oedd calonnau'r Cymry wedi eu torri. Wedi cic glyfar ar hyd yr asgell gan Nick Tompkins roedd y pac yn ymyl y llinell gais ac aeth Nicky Smith dros y gwyngalch. Ond methu wnaeth cic Biggar unwaith eto.

Ymateb Ffrainc oedd cais gan yr asgellwr Teddy Thomas. Fe giciodd y bêl dros ben Biggar cyn ei dal hi ei hun a chroesi'r llinell.

Rhoddodd trosiad Ntamack ddau bwynt ychwanegol gan sicrhau buddugoliaeth haeddiannol o 38 pwynt i 21 i Ffrainc.