'Doeddwn i ddim am i'r cyfnod clo atal ni rhag priodi'
- Cyhoeddwyd
"Wedi clywed am y cyfnod clo newydd wythnos diwethaf roeddwn i bron â thorri fy nghalon, meddai Catrin Angharad Attewell o Flaen-ffos yng ngogledd Sir Benfro, "gan fy mod i a Simon yn priodi ddiwedd mis Hydref.
"Ro'n i wir mewn mess llwyr. Roeddwn yn deall, wrth gwrs, y rhesymau dros y cyfnod clo ond roedd y cyfan yn golygu fy mod i a Simon methu priodi.
"Doedd dim amdani felly ond priodi cyn bod y cyfnod clo yn dod i rym - ac felly fe briodon ni ddydd Iau diwethaf.
"Roedd dydd Sul yn frantic wedi i ni benderfynu ein bod yn mynd i briodi mewn pedwar diwrnod - felly dyma ffonio pawb, trefnu gweinidog, y wledd a phopeth a do mi gawson ni ddiwrnod bendigedig," ychwanegodd Catrin wrth siarad â Cymru Fyw.
"Doeddwn i ddim am aildrefnu eto i ddweud y gwir. Ry'n wedi penderfynu priodi ers 2019 ac ar y list wreiddiol roedd 83 o westeion ond gyda'r cyfyngiadau presennol roedd yn rhaid cwtogi'r rhestr yn ddirfawr.
"Mae'n drueni fod llawer o'r teulu a ffrindiau wedi methu dod ond wedi dweud hynna mi gawson ddiwrnod arbennig ac mi fydden i'n 'neud e i gyd eto," meddai.
"Ry'n mor ddiolchgar i bawb am ymateb mor gloi i'n penderfyniad sydyn.
"Fe gawson ni'n wledd yn Llwyngwair, rhaid oedd ymbellhau'n gymdeithasol wrth gwrs ond roedd e'n ddiwrnod i'w gofio.
"Na does dim angen lot o ddiwrnodau i gynllunio priodas!" ychwanegodd Catrin gan wenu, "ond roeddwn yn lwcus bod y dillad i gyd gyda ni'n barod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020