Sut mae'n teimlo i ohirio priodas yn sgil coronafeirws?
- Cyhoeddwyd
Roedd Heledd Thomas a Mark Lewis yn edrych 'mlaen at ddiwrnod arbennig o ddathlu gyda'u teulu a'u ffrindiau, ond mae coronafeirws wedi rhoi stop ar eu trefniadau.
Pan sylweddolon nhw fod eu diwrnod mawr ar yr adeg pan oedd disgwyl y byddai coronafeirws ar ei hanterth, fe benderfynodd y ddau y byddai'n rhaid gohirio.
"Roedden ni mor, mor siomedig," meddai Heledd, sy'n wreiddiol o Langefni ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
"O'n i'n teimlo'n gutted. Mae trefnu priodas pan 'da chi'n gweithio ac yn magu dau o blant bach yn her.
"Roedden ni wedi edrych ymlaen gymaint i weld pawb."
Penderfynodd hi a'i dyweddi mai sicrhau diogelwch pawb oedd bwysicaf.
'Calonnau'n drwm'
"Dan ni jyst eisiau cadw pobl yn saff," meddai Heledd.
"O'n ni'n meddwl am aelodau hŷn y teulu a phobl sydd â mwy o risg, yn cynnwys fi sy'n teip 1 diabetig.
"Naethon ni sylweddoli mai'r peth callaf i 'neud oedd gohirio.
"Mae'n calonnau ni'n drwm, ond mae'n rhaid i'r pen fod yn gall."
Roedd y briodas fod i'w chynnal ar 18 Ebrill, bron â bod union 10 mlynedd ers i Heledd a Mark ddechrau canlyn.
Nawr yn rhieni i Alys, sy'n bump a Tomos sy'n dair, roedd bron popeth yn barod ar gyfer diwrnod eu priodas.
"Mae'r gwesty wedi bod yn ffantastig," meddai Heledd.
"Maen nhw wedi dweud 'nawn ni drafod efo chi pryd i'w ail-gynnal o'.
"Ar hyn o bryd, 'dan ni ddim yn gwybod pryd fydd o'n saff i 'neud - ond yn ymarferol, y flwyddyn nesaf."
Ni fydd y cwpl yn colli fawr ddim arian gan fod y darparwyr i gyd wedi bod yn gefnogol.
Yr unig beth fydd rhaid ail-drefnu yw'r rhybudd priodas, sydd ond yn para am 12 mis ac yn costio £70.'
Posib addasu yn lle gohirio?
Yn ôl y trefnydd priodasau Alaw Griffiths, y peth mwyaf anodd i gyplau sydd wedi trefnu priodasau dros y misoedd nesaf yw'r pwysau i wneud penderfyniad.
Roedd hi fod i fynd i briodas ffrindiau fis nesaf, ond maen nhw wedi canslo'n llwyr.
Ar y llaw arall, mae ganddi gleientiaid sydd wedi addasu'r trefniadau.
"Mae cleient wedi penderfynu gohirio'r neithdar," meddai.
"Maen nhw'n mynd i gael y briodas gyda theulu agos iawn a chanslo'r gweddill am y tro."
Fel un sydd wedi mwynhau trefnu ei phriodas ei hun a llu o rai eraill, mae Alaw yn gallu cydymdeimlo.
"Alla i wir ddim dychmygu sut mae'n teimlo," meddai.
"Ti'n edrych 'mlaen i gael dy deulu a dy ffrindiau i gyd dan un to, a 'di hynny ddim yn digwydd yn aml iawn, nadi?
"Ac yna'n sydyn 'di o ddim yn mynd i ddigwydd."
Dim bai ar gyplau
I unrhyw gyplau eraill mewn sefyllfa debyg sydd ddim yn siŵr beth i'w wneud, mae Alaw eisiau iddyn nhw gofio nad oes unrhyw fai arnyn nhw am y sefyllfa.
"Mae cyplau'n teimlo'n euog, am ganslo ar y suppliers," meddai.
"Nid jyst y tristwch o beidio priodi sy' fan hyn, ond mae'r sefyllfa allan o'u dwylo nhw. S'nam bai ar neb.
"Yn y byd priodasau, mae pawb eisiau'r gorau i'r cyplau. Bydd pawb yn deall. Y peth pwysig yw cofio bod pawb yn yr un cwch.
"Os oes unrhyw gyplau yn poeni, y peth gorau yw siarad efo pobl a bod yn onest. Mae pobl yn deall."
Edrych ymlaen at hapusrwydd
I Heledd a Mark, mae gwybod y cawn nhw briodi wedi'r cyfnod anodd sydd o'n blaen yn gysur.
"Ro'n i'n hynod, hynod siomedig, ond y peth pwysig i ni yw cael pawb yna," meddai Heledd.
"Fedrwn ni osod dyddiad newydd ac mae'n rhywbeth i ni gyd edrych 'mlaen ato fo wedi i'r hunllef yma ddod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020