Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Barnet
- Cyhoeddwyd
Wedi tair colled yn olynol, mae Wrecsam wedi sicrhau pwynt yn y Gynghrair Genedlaethol wedi gêm ddi-sgôr ar y Cae Ras yn erbyn Barnet.
Tîm Dean Keates gafodd y gorau o'r hanner cyntaf gyda'r amddiffynnwr Fiacre Kelleher yn penio'r bêl dros y postyn o gic gornel Elliott Durrell.
Roedd angen arbediad campus gan golwr Wrecsam, Rob Lainton wedi'r egwyl i atal cic rydd gan Alex McQueen.
Fe lwyddodd hefyd i atal Josh Walker rhag sgorio i'r gwrthwynebwyr, oedd heb sawl aelod arferol o'r garfan oherwydd profion coronafeirws positif, ym munudau ychwanegol yr ornest.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn 10fed safle'r tabl gyda saith o bwyntiau.