Hawl i gael prynu nwyddau dianghenraid 'fel eithriad'
- Cyhoeddwyd
Mae archfarchnadoedd wedi cael gwybod y dylai cwsmeriaid allu gofyn i gael prynu nwyddau dianghenraid dan amgylchiadau eithriadol yn ystod y cyfnod clo byr.
Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr busnes ac undebau llafur, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr newydd o nwyddau y gellir eu gwerthu, sydd bellach yn cynnwys dillad babi.
Dylai cwsmeriaid hefyd allu gofyn am bethau nad sydd ar y rhestr "trwy eithriad" fel rhan o "system synhwyrol".
Ond bydd yr "egwyddor ganolog" o wahardd gwerthu nwyddau nad sy'n hanfodol yn parhau nes diwedd y cyfnod clo ar 9 Tachwedd, medd y llywodraeth.
'System synhwyrol'
Mae cryn ddadlau wedi bod ynghylch y rheol wedi i archfarchnadoedd gau rhannau o'u siopau ble roedd silffoedd nwyddau fel dillad.
Roedd grwpiau busnes yn galw am "ymddiried mewn cwsmeriaid i wneud eu penderfyniadau eu hunain" o ran pa nwyddau sy'n hanfodol.
Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth eu bod wedi cael "trafodaethau positif" a chael "eglurder y dylid cyflwyno system synhwyrol ble gall cwsmeriaid ofyn am gael prynu eitemau anhanfodol fel eithriad dan y rheolau.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi datrysiad ymarferol i fasnachwyr a chwsmeriaid. Fodd bynnag, ni allwn symud o'r egwyddor ganolog y dylai masnachwyr gyfyngu gwerthiant nwyddau dianghenraid yn ystod y clo byr.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector, gan bwysleisio bod y cyfyngiadau hyn wedi'u gosod i atal lledaeniad coronafeirws ac achub bywydau.
"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd barhau i gefnogi'r ymdrech trwy gyfyngu ar deithiau a siopa dianghenraid."
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi rhestr o'r nwyddau "rydym yn ystyried sy'n cael eu caniatáu dan y rheolau" mewn archfarchnadoedd:
Bwyd a diod
Nwyddau sy'n gysylltiedig â pharatoi a storio bwyd a diod, ac i'w bwyta ac yfed
Nwyddau i olchi dillad a glanhau neu chynnal y cartref, yn cynnwys batris, bylbiau golau ac ynni
Nwyddau hylendid a chosmetig, yn cynnwys papur tŷ bach a nwyddau mislif
Cynnyrch fferyllol
Nwyddau babanod, yn cynnwys offer, dillad a chlytiau
Papurau newydd a chylchgronau
Deunydd ysgrifennu a chardiau cyfarch
Bwyd a nwyddau eraill ar gyfer anifeiliaid anwes
Nwyddau cynnal a chadw ceir a beiciau.
Dywed swyddogion y bydd yna ragor o drafodaethau gydag archfarchnadoedd yn y dyddiau nesaf ynghylch gweithredu'r newidiadau.
Yn gynharach ddydd Mawrth, roedd masnachwyr wedi cynnig "datrys y dryswch" trwy gadw nwyddau ar silffoedd, yn hytrach na chau adrannau, ond gydag arwyddion yn cynghori cwsmeriaid bod y nwyddau ddim yn rhai hanfodol.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nos Fawrth y dylai'r ddadl atgoffa Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd "cynnal ffydd y cyhoedd" yn y mesurau atal Covid-19.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies yn dweud bod angen galw'r Senedd yn ôl er mwyn trafod y rheolau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020