'Annheg' fod menywod yn pryderu gymaint am redeg yn y tywyllwch

Olivia Browne yn sefyll o flaen wal y Senedd, yn gwisgo fest rhedegFfynhonnell y llun, Bethan Morgan Photography
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Olivia Browne yn ymuno â rhedwyr eraill nos Sul i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch merched

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu y penwythnos hwn er mwyn hyrwyddo diogelwch merched tra'n rhedeg.

Mae gwaith ymchwil yn dangos fod llai o ferched yn mynd allan i redeg yn ystod misoedd tywyll y Gaeaf, gyda nifer yn nodi eu bod yn poeni am eu diogelwch.

Fe fydd rasys - wedi'u trefnu gan Athletau Cymru - yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Bae Colwyn nos Sul.

Un fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yw Olivia Browne, 25, sy'n dweud nad yw hi yn teimlo'n ddiogel yn rhedeg yn y tywyllwch.

Disgrifiad,

Fe ddylai fod yn hawl i bob merch a menyw allu rhedeg a teimlo'n ddiogel, meddai Olivia Browne

Ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Olivia y dylai fod hawl gan bob merch yng Nghymru a thu hwnt i fynd allan i redeg a theimlo'n ddiogel tra'n gwneud hynny.

"Er fy mod i'n byw mewn ardal weddol ddiogel - dwi byth yn rhedeg yn y tywyllwch," meddai.

"Os ydw i allan, dwi'n dweud wrth rywun ac yn rhannu location. Mae hyn wir yn broblem ac yn parhau i fodoli ymhob sector o'r gymdeithas.

"Mae'n achos pryder i nifer o fenywod - nid yn unig y rhai sy'n rhedeg."

'Dwi ddim ar ben fy hun'

Esboniodd Olivia ei bod wedi cael profiadau annymunol ers dechrau rhedeg er mwyn rhoi hwb i'w hiechyd meddwl.

Disgrifiodd un achos lle cafodd ei dilyn adref gan ddynion mewn car tra allan yn rhedeg.

"Dwi ddim ar ben fy hun yn hyn - mae menywod yn profi hyn o hyd, a llawer gwaeth na fi o bosib," meddai.

Hannah Baulch, Swyddog Rhwydwaith Clybiau Athletau CymruFfynhonnell y llun, Hannah Baulch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Baulch o Athletau Cymru yn cynnal ras 5km ddydd Sul i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch menywod

Mae Athletau Cymru wedi lansio ymgyrch cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth am y pryderon sydd gan fenywod ynghylch diogelwch wrth redeg gyda'r hwyr.

Gyda'r clociau'n troi y penwythnos hwn, mae'n golygu y bydd hi'n tywyllu'n gynt yn ystod y misoedd nesaf - rhywbeth allai achosi poen meddwl i fenywod sydd am fynd allan i redeg.

'Angen dechrau'r sgwrs'

Dywedodd Swyddog Rhwydwaith Clybiau Athletau Cymru, Hannah Baulch, fod bron i hanner aelodau Athletau Cymru yn fenywod, a bod eu gwarchod yn hollbwysig:

"Mae hwn yn broblem cymdeithasol ehangach. Does dim modd i ni (Athletau Cymru) ddatrys y broblem yn gyfan gwbl, ond gallen ni ddechrau'r sgwrs," meddai.

"'Dyn ni eisiau uno rhedwyr o bob cwr o Gymru. Dod â phawb at ei gilydd ar gyfer yr achos hwn, ac rydyn ni'n mor falch o'r ymateb hyd yn hyn.

"Mae pob digwyddiad wedi gwerthu allan – mae hynny'n dros 100 o redwyr ymhob un o'r tri lleoliad" meddai.

Er bod codi ymwybyddiaeth yn rhan bwysig o'r sgwrs, esboniodd Hannah fod magu hyder menywod a cheisio addysgu dynion yr un mor bwysig:

"Yn anffodus, mae sawl achos o aflonyddu yn digwydd pob blwyddyn, sy'n golygu ei bod hi'n anniogel i ferched redeg yn y tywyllwch.

"Mae'n annheg, y mental checklist y mae'n rhaid i ferch fynd drwyddi cyn mentro allan.

"Ond drwy ddechrau'r sgwrs ymysg dynion hefyd, dwi'n credu bod modd creu cymuned ohonynt a all fod ar ochr menywod," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig