Traddodiadau Calan Gaeaf y Cymry

  • Cyhoeddwyd

Eleni ar noson Calan Gaeaf, fel yr arfer, mi fydd plant bach Cymru yn crwydro'r strydoedd yn codi ofn a chnocio ar ddrysau yn gobeithio am losin.

Roedd arferion Calan Gaeaf y Cymry flynyddoedd yn ôl yn wahanol iawn i heddiw, ac yma mae'r chwedleuwraig a pherfformwraig Mair Tomos Ifans yn sôn am yr hen draddodiadau a ddigwyddai yr adeg hon o'r flwyddyn.

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Mair Tomos Ifans yn sôn am hen draddodiadau Calan Gaeaf

line

Mae gennym ni'r Cymry arferion, traddodiadau ac ofergoelion digon gwallgo, os nad cwbl boncyrs. Ac mae sawl un yn perthyn i noson Calan Gaeaf.

Mae Calan Gaeaf yn un o dair Gŵyl Ysbrydnos gyda Chalan Mai a Gŵyl Ifan, a chredir, ar y nosweithiau yma, bod ysbrydion y meirw yn amlwg iawn achos bod y drysau rhwng y byd yma a'r byd arall ar agor ac felly mae'r ysbrydion yn gallu mynd a dod rhwng y ddau fyd yn ddigon rhwydd.

Adrodd straeon arswyd a thaflu cnau i'r tân

Straeon arswyd o gwmpas y tânFfynhonnell y llun, Campwillowlake / Getty Images

Ers stalwm, ar noson Calan Gaeaf, byddai pobl yn hel at ei gilydd yn eu tai i ddawnsio a chanu i gyfeiliant y delyn a'r crwth, adrodd straeon arswyd a bwyta afalau a chnau.

Er mwyn gweld sut fyddai'r flwyddyn nesa'n argoeli roedd gan y Cymry arfer o daflu'r cnau hynny i'r tân. Pe byddai'r gneuen yn rhoi andros o glec uchel ac yna'n llosgi'n ffyrnig roedd hynny'n argoeli y byddai'r flwyddyn i ddod yn un dda iawn.

Ond os rhyw fud-losgi'n ddi-ffrwt fyddai eich cneuen chi, wel, felly hefyd eich blwyddyn. Roedd rhai hyd yn oed yn credu mai arwydd o farwolaeth oedd diffyg clec y gneuen.

Tanio coelcerth

CoelcerthFfynhonnell y llun, Siede Preis / Getty Images

Yn yr hen ddyddiau roedd y tân ynghyn ddydd a nos; yn gwresogi'r tŷ, ac wrth gwrs yn cynnal golau ar y dyddiau tywyllaf. Unwaith fyddai'r tân yn diffodd, mi fyddai'r nos dywyll yn mynd yn lle andros o arswydus yn llawn bwci-bos a chreaduriaid annaearol!

Er mai gyda noson tân gwyllt yr ydym ni'n cysylltu coelcerth y dyddiau hyn, roedd tanio coelcerth ar noson Calan Gaeaf yn hen arfer Cymreig. Byddai'r goelcerth yn cael ei thanio ar ben mynydd, bryncyn neu graig go amlwg yn yr ardal a byddai pobl yn tyrru yno i gynnal pob math o gystadlaethau a champau.

Byddai'r glaslanciau yn rhedeg rownd a rownd y goelcerth yn mynd yn nes ac yn nes at y fflamau bob tro, weithiau yn mentro rhedeg ar y slecs a'r golosg hyd yn oed! Roeddent yn herio ei gilydd hefyd i neidio dros y goelcerth wrth i'r fflamau farw a'r goelcerth fygu.

Byddai pobl hefyd yn taflu carreg i mewn i'r goelcerth ar ddechrau'r noson ac yn dychwelyd y bore wedyn i chwilio am eu carreg yn y marwydos. Mae'n debyg fod dod o hyd i'r garreg yn arwydd o lwc dda am y flwyddyn, ond gwae chi os na fyddech chi'n ei ffeindio!

Yr Hwch Ddu Gota

Yr Hwch Ddu GotaFfynhonnell y llun, Kristina Balhozer

Ar ôl i'r goelcerth orffen llosgi, roedd tywyllwch dudew yn syrthio dros y fro. Dyna pryd fyddai'r perygl o gael eich dal gan yr Hwch Ddu Gota yn codi. Byddai'n ymddangos o fwg trwchus y goelcerth ac yn erlid pawb oddi yno.

Yr adeg hynny byddai pobl yn dechrau gweiddi a llafarganu rhigymau fel hyn i ochelu rhag yr hwch ddu gota a rasio tua thre am nad oedd neb eisiau bod yr olaf i gyrraedd adra:

"Ladi Wen ar bob pren"

blanc

"Adref adref am y cynta,

Hwch Ddu gwta a gipo'r ola'"

blanc

"Nos G'lan gaua'

Ar ben pob gamfa,

Hwch ddu gwta

Gipio'r ola'"

Weithiau byddai'r hwch yn ymddangos ar ben camfa neu bostyn ffens. Gwae'r olaf i gyrraedd adref am mai nhw fyddai'n cael eu dal gan yr hwch… ffordd dda o gael plant i fynd adra 'toedd?

Pobi bara i'w rannu i'r tlodion

Torth o fara

Arfer arall ar ddydd Calan Gaeaf oedd pobi bara a'i rannu ymysg y tlodion. 'Da chi'n gweld, roedd yr hen bobl yn credu bod rhoi bwyd i'r bobl dlawd yn y byd hwn yn anrhydeddu eu perthnasau ymadawedig - aelodau'r teulu a oedd wedi marw.

Ni fyddai neb yn gwrthod bwyd i unrhyw un a ddeuai at eu drysau ar noson Calan Gaea'. Roedd maint y cardod yn fesur o ba mor annwyl oedd yr ymadawedig iddyn nhw. Dipyn yn wahanol i'r tric o' trît sy'n boblogaidd heddiw.

Roedd arferiad hefyd i roi brechdan tu allan i ffenest bob tŷ ac wrth wneud, dweud:

"Gwen y gwnei a dy holl deulu, Hyn a gei di gennyf 'leni."

Hefyd o ddiddordeb: