Radio Cymru'n cyhoeddi amserlen a chyflwynwyr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i amserlen yr orsaf sy'n dod i rym fis nesaf.
Bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford - cyflwynwyr y rhaglen deledu boblogaidd, Priodas Pum Mil - yn cyflwyno rhaglen fyw newydd bob bore Gwener rhwng 09:00 a 11:00, gyda'u rhaglen gyntaf ar 20 Tachwedd.
Mae Hanna Hopwood Griffiths yn ymuno â'r orsaf fel cyflwynydd rhaglen newydd ar nos Fawrth, a bydd rhaglen gyda'r hwyr Ffion Emyr yn cael ei darlledu ar nos Wener yn ogystal ag ar nos Sadwrn.
Mae'r rhaglenni sy'n cael eu darlledu ar hyn o bryd am 18:00 rhwng nos Lun a nos Iau - Stiwdio, Dei Tomos, Cofio a Beti a'i Phobl - yn symud i 21:00 dan y drefn newydd.
'Llwyth o tiwns, digon o siarad a lot o laffs'
Dywed yr orsaf y bydd rhaglen Trystan ac Emma "yn cychwyn y penwythnos yn gynnar fore Gwener" gyda chyfuniad o gerddoriaeth, cystadlaethau a sgyrsiau.
Dywedodd Trystan Ellis-Morris, sydd eisoes yn cyflwyno'n achlysurol ar yr orsaf, bod y ddau "methu aros at dreulio'n dyddia' Gwener 'efo gwrandawyr Radio Cymru a chychwyn y penwythnos 'efo llwyth o tiwns, digon o siarad a lot o laffs".
Mae'r rhaglen newydd yn golygu y bydd Aled Hughes yn cyflwyno pedair rhaglen foreol yr wythnos yn lle'r pum presennol.
Dywed yr orsaf y bydd yn hytrach yn "trafod materion a phynciau amrywiol ac yn dod i adnabod rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru yn well mewn podlediad newydd fydd i'w glywed yn gynnar yn 2021".
Rhaglen drafod am bynciau amrywiol "o ddyledion, i iechyd, i faterion yn ymwneud â'r cartref" yw Gwneud Bywyd Yn Haws, un o'r rhaglenni fydd yn "pontio rhwng rhaglenni'r prynhawn a'r nos" rhwng 18:00 a 18:30 ganol yr wythnos.
Dywedodd Hanna Hopwood Griffiths: "Mae'n anodd cyfleu pa mor hapus ydw i o gael y cyfle hwn i fynd ati i ymchwilio a sgwrsio am bob math o bethau a fydd, gobeithio, yn gwneud bywyd yn haws - o'r pethau bychain i'r pethau mawr.
"Mae cael cyfleoedd i ni ddod at ein gilydd ac agor sgwrs mor bwysig. Mewn cyfnod ble nad ydyn yn gallu gweld ein gilydd, mae datblygu ein sgiliau gwrando yn bwysicach nag erioed."
Dyma'r holl raglenni am 18:00 dan yr arlwy newydd:
Dydd Llun - ailddarllediad Troi'r Tir
Dydd Mawrth - Gwneud Bywyd yn Haws
Dydd Mercher - Rhaglen ddogfen
Dydd Iau - cyfresi fel Benbaladr a'r rhaglen gwis Penben, ac un darllediad misol awr o hyd o'r rhaglen wleidyddol, Hawl i Holi
Dydd Gwener - Ameer Davies-Rana
Bydd y rhaglenni cerddoriaeth arbenigol - Recordiau Rhys Mwyn, Hwyrnos Georgia Ruth, Lisa Gwilym Yn Cyflwyno a Byd Huw Stephens - yn dechrau hanner awr yn gynt am 18:30 ac yn darfod am 21:00.
Bydd Geraint Lloyd yn parhau wrth y llyw rhwng 22:00 a hanner nos rhwng nos Lun a nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2020
- Cyhoeddwyd25 Medi 2020