'Synhwyrol ac ymarferol i ailagor y lein i Afonwen'

  • Cyhoeddwyd
Trên yn cyrraedd gorsaf Afonwen yn 1962Ffynhonnell y llun, Ben Brooksbank
Disgrifiad o’r llun,

Trên yn cyrraedd gorsaf Afonwen yn 1962

Ar y Trên i Afonwen y collodd Sobin ei ben ar ôl gwirioni ar eneth oedd yn teithio o Chwilog i Benygroes.

Mae'r gân wedi anfarwoli stesion Afonwen sydd ar Lein y Cambria rhwng Porthmadog a Phwllheli.

Ond mae'r gangen o'r lein y sonnir amdani yn y gân - rhwng Afonwen, Penygroes, Caernarfon a Bangor - wedi cau ers Rhagfyr 1964 yn dilyn bwyell Dr. Beeching.

Rŵan mae yna ymgyrch i ailagor y rheilffordd, a hefyd y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, er mwyn gallu teithio ar y trên rhwng y gogledd a'r de heb fynd drwy Loegr.

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith fyddai ailagor y gangen hyd at orsaf Bangor

Mudiad o'r enw Traws Link Cymru sydd wedi dechrau'r ymgyrch i ailagor y ddwy lein.

Mae yna waith eisoes wedi ei wneud i hyrwyddo'r ymgyrch i ailagor y rhan deheuol, o Aberystwyth i Gaerfyrddin, a nos Iau cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf i ddechrau ymgyrch i ailagor y rhan gogleddol rhwng Bangor ac Afonwen.

Mae'r mudiad yn amcangyfrif y byddai'n costio £340m i ailagor y lein o Afonwen i Fangor, gan y byddai angen ailosod cledrau a chodi pontydd ac ati, a hyd at £500m i ailsefydlu'r gwasanaeth rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ymateb canonogol

Elfed Wyn Jones a drefnodd cyfarfod rhithiol nos Iau ac mi ddaru rhyw 32 o bobl ymuno yn y drafodaeth.

Dywedodd fod yr ymateb yn y cyfarfod wedi ei galonogi ac mai'r cam nesaf fydd perswadio Llywodraeth y DU i dalu am arolwg o'r llwybr er mwyn gweld beth fyddai goblygiadau ailosod y cledrau a chodi pontydd.

"Dwi'n meddwl ei fod o yn syniad synhwyrol ac ymarferol iawn," dywedodd. "Mae yna wastad alw am drafnidiaeth glan, yn wahanol i geir.

Ffynhonnell y llun, S4C/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Golwg o'r awyr o'r hen lein o'r rhaglen Cledrau Coll a ddarlledwyd yn 2000

"Mae hen lwybr y trac yn dal yna, ac mi fyddai yn cysylltu Bangor i Aberystwyth, i Gaerfyrddin, i Abertawe, ac i Gaerdydd.

"Nid yn unig y buasai o fudd i ni yma yn y gogledd orllewin, mi fuasai yn fudd i Gymru gyfan hefyd, i bobl sydd eisiau teithio i'w gwaith ac yn hwb mawr i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Adolygiad Williams a gyhoeddwyd y llynedd wedi cydnabod fod cysylltiad rheilffordd rhwng Bangor a Phorthmadog yn llwybr strategol y dylid rhoi ystyriaeth bellach iddo.

Ond Llywodraeth y DU, meddai, sy'n gyfrifol am isadeiledd rheilffyrdd Prydain, ac nad ydy'r Llywodraeth honno wedi ymateb i adroddiad Williams.

Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru yn galw am ddatganoli'r rheilffyrdd a sicrhau setliad ariannol teg.