Dinas Mawddwy: Byw mewn pentref lle mae Covid yn brin
- Cyhoeddwyd
Yn yr 16eg ganrif, y Gwylliaid Cochion oedd yn achosi gofid mawr i bobl Dinas Mawddwy.
Heddiw, Covid-19 sy'n cadw'r bobl yn agos at eu haelwydydd wrth i Lywodraeth Cymru ddweud bod rhaid aros adref yn ystod y cyfnod clo byr.
Ond sut mae pobl y pentref ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri yn ymdopi?
Dyma ardal lle mae achosion o'r feirws wedi bod yn brin iawn ers dechrau'r pandemig.
I Berwyn Hughes - perchennog Gwesty'r Llew Coch - mae gorfod cau yn golygu colled ariannol.
Fe fyddai'r cyfnod hwn wedi bod yn un prysur iawn yn y gwesty - roedd pob ystafell wedi'u bwcio dros flwyddyn yn ôl.
Tase 'na ddim pandemig, fe fyddai Rali GB Cymru wedi digwydd y penwythnos hwn.
Er hynny, mae Berwyn yn derbyn bod rhaid cau, ac mae'n dweud bod y penderfyniad i gau pobman yng Nghymru yn deg.
"Un rheol i bawb ydy o. Faswn i ddim yn licio job [Mark] Drakeford na neb arall sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau yma ynde," meddai.
"Maen nhw wedi gwneud o am reswm a dwi jyst yn gobeithio y gallwn ni ddod allan o'r ochr arall a bod y rheswm yna'n haeddiannol."
Dywedodd bod "ambell un" o'r bobl leol wedi cwestiynu pam bod yn rhaid i Ddinas Mawddwy gau tra bod lefelau'r feirws mor isel yn yr ardal.
"Tasen ni'n gallu gwneud lockdown lleol basen nhw'n ddiolchgar iawn i allu cau'r pentref i ffwrdd yn gyfan gwbl o bawb arall. Ond 'di o ddim yn bosib."
Fel y Llew Coch, mae busnesau eraill wedi gorfod cau - Melin Meirion, canolfan arddio Camlan a chaffi'r pentref.
Mae'r cynghorydd lleol - John Pughe Roberts - yn eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael, tra ei fod e hefyd yn gresynu effaith y feirws ar bobl ei fro.
"Dwi'n cynrychioli Corris a Dinas Mawddwy a dwi ddim wedi clywed am neb lawer sydd yn y gymuned sydd wedi cael [Covid-19]," meddai.
"'Da ni'n ardal wledig lle mae'r Sioe Frenhinol yn bwysig iawn, mae'r rhai ifanc wedi colli honno.
"'Da ni'n licio mynd i'r Eisteddfod ac ati - felly 'da ni wedi colli'r cwbl yr haf yma. Mae 'na lot o stiwdants o'r ardal yma sydd wedi mynd i golegau yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael yr un profiad ag y mae rhai o'u blaen wedi cael."
Un o'r myfyrwyr o'r pentre yw Swyn - merch Delyth Lloyd Griffiths - sydd yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Lerpwl. Fel cannoedd o fyfyrwyr eraill yn y ddinas, mae Swyn wedi cael Covid.
Dywedodd Delyth: "Fuodd hi ddim yn sâl am prin diwrnod a hanner falle, ac erbyn hyn mae hi wedi cael gwahoddiad i fynd i roi plasma ar gyfer rhai sy'n fwy sâl gyda Covid.
"Ond o ran bywyd myfyriwr, fel cawson ni a gafodd ei brawd yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl. 'Di o'm byd tebyg i beth mae hi'n cael rŵan."
O ran y cyfnod clo byr, mae Delyth o'r farn fod y gwreiddiau yn yr hyn ddigwyddodd yn yr haf.
"Dwi'n teimlo mai'r broblem yn yr haf yn yr ardaloedd yma oedd bod cymaint o dwristiaid wedi cyrraedd o bob math o lefydd, lle roedd cloeon [mewn grym].
"Dylsai llywodraeth Lloegr fod wedi rhoi stop ar y teithio trwy'r haf - fel bod pobl yn gallu mynd i'r dafarn agosaf a mwynhau eu hunain."
'Mae'n dod yn nes'
'Dinas' maen nhw'n galw'r lle - ond pentref yw Dinas Mawddwy ac mae llawer o'r trigolion fel Mary Mills yn fodlon nad ydyn nhw mewn dinas fawr.
"Dwi'n falch bod fi'n byw yma," meddai, "mae pobl mewn dinasoedd yn ei chael hi'n anodd ac mae'n beryg hefyd. Mae'n saff yma i gymharu â llefydd eraill."
Ond dywedodd adeiladwr Hefin Pugh ei fod yn teimlo nad yw'r feirws mor bell i ffwrdd ag yr oedd.
"Mae'n dod yn nes - mae 'na gwpl [o achosion] yn Nolgellau ac ym Machynlleth.
"Ond fel arall dydy o ddim wedi effeithio dim arna i a dweud y gwir. Dwi ddim yn nabod neb â'r clefyd ynde."
Ond mae achosion o'r feirws yr ochr draw i Fwlch yr Oerddrws ac yn is lawr Dyffryn Dyfi.
Gobaith pobl Dinas Mawddwy yw na ddaw'n agosach na hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020