Rheolau cenedlaethol symlach ar ddiwedd y cyfnod clo byr

  • Cyhoeddwyd
Poster yn Rhondda Cynon Taf

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau na fydd yna gyfres o gyfyngiadau lleol mewn gwahanol rannau o Gymru pan ddaw'r cyfnod clo byr i ben ar 9 Tachwedd.

Yn hytrach bydd yna "set symlach o reolau cenedlaethol" a fydd yn "haws i bawb eu deall".

Yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd yn anghyfreithlon i bobl ddweud celwydd wrth swyddogion y gwasanaeth olrhain er mwyn osgoi gorfod hunan-ynysu.

Yn ogystal bydd taliad newydd o £500 ar gael i bobl ar gyflogau isel sy'n gorfod hunan-ynysu.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn nodi bod 11 yn rhagor o bobl wedi marw o'r haint a bod dros 1,700 o achosion newydd.

20% yn fwy o gleifion Covid yn yr ysbyty

Mae Cymru bron hanner ffordd trwy'r cyfnod 'clo tân' 17 diwrnod, sy'n ymgais i arafu lledaeniad Covid-19 ar draws y wlad.

Er hynny, mae nifer achosion yn parhau i gynyddu, gyda 1,700 yn rhagor o achosion newydd ddydd Gwener, a 1,191 o gleifion yn yr ysbyty - cynnydd o 20% mewn wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn y gynhadledd ddydd Gwener

Mae'r ffigyrau, medd Mr Drakeford "yn dweud wrthym ni pa mor bwysig yw'r cyfnod clo tân hyn".

Ychwanegodd: "Ein gobaith yw y bydd y camau rydyn ni gyd yn eu cymryd yn newid cwrs yr haint yma. Yn yr wythnosau yn dilyn y clo tân, fe wnawn ni weld yr impact llawn."

Mynnodd Mr Drakeford y bydd y clo byr yn dod i ben ar 9 Tachwedd, a bydd tafarndai, bwytai a gwasanaethau eraill yn ailagor, er i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddweud mai sgyrsiau dan do mewn llefydd fel tafarndai oedd wrth wraidd y cynnydd diweddar yn nifer yr achosion.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd clo lleol ym Mangor

Dywedodd Mr Drakeford y bydd yn cyhoeddi mwy o fanylion ddydd Llun ynghylch y rheolau cenedlaethol "syml" newydd.

Ond fydd dim cyfyngiadau lleol fel y rheiny oedd mewn grym ym mwyafrif siroedd Cymru, ynghyd â thref Llanelli a dinas Bangor, hyd ddechrau'r clo byr.

Does dim penderfyniadau eto, meddai, ynghylch rheolau'n ymwneud ar gyfyngu teithio neu gwrdd ag aelodau aelwydydd eraill.

Does dim penderfyniadau eto "chwaith ynghylch lefel y dirwyon am dorri'r rheolau hunan-ynysu wedi cysylltiad gan y gwasanaeth olrhain," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i bobl Cymru hunan-ynysu am 10 i 14 diwrnod, gan ddibynnu ar natur symptomau preswylwyr yr aelwyd

Mae'r drosedd newydd yn ymateb i bryderon fod pobl yn rhoi gwybodaeth ffug i swyddogion y gwasanaeth olrhain.

Bydd cyflogwyr hefyd yn cael eu gwahardd rhag atal gweithwyr rhag hunan-ynysu.

Tâl am hunan-ynysu

Cyhoeddodd Mark Drakeford ym mis Medi fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £32m i ariannu taliadau o £500 i weithwyr ar incwm isel sy'n gorfod hunan-ynysu.

Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd yn derbyn taliad os oes rhaid iddyn nhw hunan-ynysu wedi prawf coronafeirws positif neu wedi cyngor gan y gwasanaeth olrhain.

Bydd yn rhaid i weithwyr wneud cais i'w hawdurdod lleol a bydd modd ôl-ddyddio'r taliad i 23 Hydref.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y rheolau'n cael eu hatgyfnerthu i atal ceisiadau ffug.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu gweinidogion am oedi gymaint cyn gweithredu'r cynllun. Mae cynlluniau tebyg eisoes mewn grym yn Lloegr a'r Alban.

Ystyried gostwng y cyfnod hunan-ynysu

Yn hwyrach ddydd Gwener wrth ymateb i sylwadau prif feddyg Cymru am ostwng y cyfnod hunan-ynysu, dywedodd y Prif Weinidog bod y wyddoniaeth yn newid drwy'r amser.

Ar hyn o bryd mae angen i bobl hunan-ynysu am rhwng deg ac 14 diwrnod - hynny'n ddibynnol ar yr amgylchiadau.

Dywedodd Mr Drakeford bod lefel y risg i bobl eraill yn lleihau cryn dipyn wedi wythnos.

"Felly mae prif swyddog meddygol Cymru yn siarad â phrif swyddogion meddygol eraill o'r DU i drafod byrhau y cyfnod hunan-ynysu," meddai.

Dywedodd hefyd y bydd canolfannau cymunedol yn gallu cael grwpiau o hyd at 15 o bobl yn ystod y gaeaf wedi i'r cyfnod clo presennol ddod i ben ar 9 Tachwedd.