Rhoi'r gorau i chwilio am ddyn aeth ar goll wrth hel cocos
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y chwilio am ddyn aeth ar goll ger arfordir Sir Gaerfyrddin wedi dod i ben.
Mae Darren Rees, 43, ar goll ers nos Fawrth, ar ôl adroddiadau iddo fethu a dychwelyd o fod yn hel cocos.
Ddydd Mercher, daeth y gwasanaethau brys o hyd i gerbyd a chwch Mr Rees mewn maes parcio yn ardal Machynys, Llanelli.
Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau nad oedd timau wedi darganfod Mr Rees er ymgyrch chwilio "helaeth".
Ddydd Gwener, dywedodd y Prif Arolygydd Chris Neve o Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn "hyderus ein bod wedi gwneud popeth sy'n bosib" wrth chwilio.
Ond dywedodd fod y "penderfyniad ofnadwy o anodd" wedi cael ei wneud gan yr asiantaethau i ddod â'r chwilio am Mr Rees i ben.
Hofrenyddion a badau achub
Gwylwyr y Glannau oedd yn cydlynu'r chwilio, a bu timau o Borth Tywyn, Llansteffan a'r Mwmbwls yn rhan o'r gwaith.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys a hofrenyddion a badau achub o Borth Tywyn a Chasllwchwr hefyd wedi cymryd rhan.
Yn ogystal, mae gwirfoddolwyr o'r gymuned hel cocos wedi bod yn cynorthwyo o dan oruchwyliaeth yr heddlu.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod Mr Rees yn gwisgo esgidiau pysgota gwyrdd a siwmper las, ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un a'i welodd i gysylltu gyda nhw.