Pwysau cynyddol ar ddelwedd dynion yn 'frawychus'

  • Cyhoeddwyd
Social media

Wrth i fwy o bobl ymarfer corff yn amlach yn ystod y pandemig, mae rhybudd bod y pwysau ar ddynion ifanc i fagu cyhyrau mawr a delwedd arbennig yn arwain at iselder a defnydd o gyffuriau.

Daw'r rhybudd gan arbenigwr ar ddysmorffia'r corff (body dysmorphia), cyflwr meddyliol sy'n achosi i rywun boeni'n ormodol am eu delwedd a'u corff.

Mae mwy o ddynion yn ymdrechu i fod yn fwy cyhyrog meddai'r arbenigwyr, gan arwain at rai achosion o'r hyn sy'n cael ei alw'n bigorexia - obsesiwn gyda bod yn fwy yn gorfforol.

Dywedodd un dyn o'r de sydd wedi bod yn defnyddio steroidau ers 17 o flynyddoedd bod pwysau "brawychus" ar bobl ifanc erbyn hyn.

'Hyd yn oed teganau plant'

Mae Dr Rob Wilson o'r Body Dysmorphic Disorder Foundation yn arbenigwr yn y maes.

Dywedodd bod "newid mewn pwyslais" yn y cyfryngau i ganolbwyntio ar gyhyrau mawr, a bod y pwysau i edrych rhyw ffordd benodol ymhobman.

Mae "hyd yn oed teganau plant wedi newid dros y degawd diwethaf i fod yn fwy cyhyrog", meddai.

Ei bryder ydy bod y pwysau yn arwain at fwy o achosion o ddysmorffia, yn enwedig bigorexia, a'r perygl y gall hynny arwain at iselder neu ddefnydd o steroidau a chyffuriau eraill.

Mae'n poeni y gallai hyd at 10% o ddynion sy'n hyfforddi mewn campfeydd dros y DU fod yn dioddef o'r cyflwr.

Dywedodd bod symptomau'n cynnwys "poeni am dros awr y dydd am ddelwedd" neu ddewis ymarfer corff ar draul pethau fel cymdeithasu neu addysg.

Mae pobl rhwng 16 a 34 oed yng Nghymru wedi bod yn fwy actif yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl arolwg newydd gan Chwaraeon Cymru.

Ar yr un pryd, mae arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn dangos bod delwedd corfforol yn bryder mawr i bobl 16-25 oed, gyda dim ond diffyg cyfleoedd gwaith a llwyddiant addysgol yn uwch ar y rhestr.

'Yw e werth e?'

Dywedodd Chris o dde Cymru - nid ei enw iawn - bod ganddo ddysmorffia, a'i fod wedi defnyddio steroidau am 17 o flynyddoedd ar y cyd ag ymarfer corff.

"Pan dwi'n edrych yn y gym nawr, mae lot o bobl 16 neu 17 yn defnyddio pethau fel steroids - dyna'r peth mawr i wneud," meddai.

"Oherwydd y pwysau gan bethau fel y cyfryngau cymdeithasol i fod yn fawr. Mae'n frawychus."

Gan fod ganddo ei deulu ei hun erbyn hyn, mae Chris yn poeni am yr effaith hirdymor, ond nid oedd hynny'n ystyriaeth pan oedd yn iau.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn chaso rhywbeth ond dros fisoedd o waith caled ac ymarfer - yr hyn mae'r corff yn mynd drwyddo - yw e werth e?"

Yn ôl un sydd wedi bod yn gweithio gyda defnyddwyr steroidau ers 15 mlynedd, mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl yn eu harddegau sy'n eu cymryd.

Dywedodd Mike Mallett o Wasanaeth Camdrin Sylweddau Gwent, bod dysmorffia yn thema amlwg.

"Pan o'n i'n rhedeg y prosiect cyfnewid nodwyddau daeth tua 600 o bobl i mewn dros flwyddyn, a dwi ddim yn meddwl bod neb erioed wedi dweud bod nhw'n berffaith," meddai.

"Maen nhw wastad mo'yn 'chydig bach mwy... Maen nhw'n symud y targed."