Covid-19: Dirwyon i'r rhai sy'n gwrthod hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
dynesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bobl yng Nghymru hunan-ynysu os ydyn nhw'n cael cyfarwyddyd i wneud hynny

Fe fydd dirwyon am dorri rheolau hunan-ynysu yn debyg i ddirwyon eraill sy'n cael eu rhoi am dorri cyfyngiadau coronafeirws yn ôl y gweinidog iechyd Vaughan Gething.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl hunan-ynysu pan fod gofyn iddynt.

Dywedodd Mr Gething "yn ddelfrydol" y byddai unrhyw ddirwyon sy'n cael eu rhoi yn gyson gyda'r rhybuddion dirwy eraill yn ymwneud â coronafeirws - gan gychwyn ar £60.

Mae ail drosedd yn golygu dirwy o £120, gan ddyblu am droseddu pellach tan cyrraedd uchafswm o £1,920.

Mae un o ymgynghorwyr y llywodraeth wedi dweud nad yw dirwyon yn dueddol o fod yn effeithiol.

Dywedodd Mr Gething nad yw am weld pwyslais gormodol yn cael ei roi ar ddirwyon, ac y byddai'n well ceisio addysgu neu annog pobl i ddilyn y rheolau.

"Rydym yn edrych ar drefn fydd yn gyson gyda'r drefn o osod rhybuddion dirwy sydd eisoes mewn grym - a lle mai cosbi yw'r cam olaf," meddai.

"Y cam cyntaf yw gofyn i bobl wneud y peth cywir."