Hunan-ynysu: Dirwyon 'yn dueddol o beidio gweithio'

  • Cyhoeddwyd
Athro Ann JohnFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Ann John yn aelod annibynnol sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar coronafeirws

Dylai dirwyo pobl am dorri rheolau hunan-ynysu fod "y dewis olaf un" yn ôl un o ymgynghorwyr y llywodraeth.

Dywedodd yr Athro Ann John bod dirwyon "yn dueddol o beidio gweithio" ac yn hytrach fe ddylai pobl gael cefnogaeth i gydymffurfio.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi ei bod bellach yn rheidrwydd cyfreithiol i hunan-ynysu os yw'r awdurdodau olrhain yn gorchymyn hynny.

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai dirwyon yn cael eu defnyddio "pan fyddwn ni wedi trio popeth arall".

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau lefel y dirwyon hyd yma, ond yn Lloegr gall pobl wynebu dirwy o hyd at £10,000 am beidio hunan-ynysu.

Mae swyddogion y llywodraeth yn credu mai dim ond tua 20% sy'n dilyn rheolau hunan-ynysu hyd yma.

Dywedodd Athro John, aelod annibynnol o Gell Ymgynghorol Technegol Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyngor iddyn nhw ar coronafeirws, bod y ffigwr cydymffurfio yn isel "am ei fod yn beth anodd i wneud".

"Yr hyn ry'n ni'n gweld wrth wneud arolygon yw bod pobl eisiau cydymffurfio... mae pobl eisiau gwneud y peth iawn," ychwanegodd.

"I lawer, pan maen nhw'n cael gorchymyn i hunan-ynysu, dyna'r tro cynta' i hynny ddigwydd iddyn nhw, a'r tro cyntaf iddyn nhw orfod meddwl am y peth o ddifri."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth groesawu cyhoeddiad y llywodraeth y bydd pobl ar incwm isel yn derbyn taliad o £500 os ydyn nhw'n gorfod hunan-ynysu, ond dywedodd bod angen adolygu'r swm yn gyson.

"Rwy'n credu ei fod yn gam positif iawn i gydnabod yr her ariannol sy'n wynebu pobl.

"Dyw'r gydnabyddiaeth ddim wastad wedi bod fod pobl mewn swyddi ansicr neu ar gytundebau dim oriau... bod y dewisiadau yn anoddach iddyn nhw.

"Felly rhaid croesawu hynny, ac yna'i adolygu."

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud sut y bydd y gorchymyn cyfreithiol i hunan-ynysu yn cael ei orfodi yma.

Ond mae'r Athro John yn amheus o'r effaith y bydd dirwyon yn cael.

Dywedodd: "Does wir ddim llawer o dystiolaeth bod gorfodaeth fel hyn yn gweithio.

"Mae peth tystiolaeth am ddeddfwriaeth [yn gweithio], ond mae gorfodaeth a dirwyon yn dueddol o beidio gweithio... mae pobl yn ceisio osgoi'r peth.

"Rwy'n credu mai'r hyn fyddai orau yw ein bod yn creu amgylchedd a negeseuon fel bod pobl yn cael eu cefnogi wrth wneud eu dewisiadau.

"Rhaid i ni sicrhau fod pobl yn gwybod beth sydd ar gael yn nhermau cefnogaeth iddyn nhw gyda iechyd meddwl, cefnogaeth gyda phethau ymarferol fel sut i gael bwyd, meddyginiaeth a chefnogaeth ariannol."

Yn ôl Mark Drakeford, dirwyo fyddai'r dewis olaf: "Ein prif arf yw ceisio darbwyllo pobl a gofyn iddyn nhw wneud y peth iawn. Mae hynny'n gweithio i'r mwyafrif.

"Mae yna leiafrif bach sy'n torri'r rheolau yn gwbl fwriadol gan arwain at risg iddyn nhw'u hunain ac eraill.

"Mae'n anochel fod rhaid i ni gael cosb o rhyw fath i bobl sy'n gwneud hynny."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS y dylai fod cefnogaeth ariannol o hyd at £800 ar gael.

"Ry'n ni'n dymuno osgoi dirwyon a dyna pam yr ydym yn credu y dylid cefnogi'r rhai sy'n gorfod hunan-ynysu, gan gynnwys cefnogaeth ariannol lle bo angen hynny."

Bydd mwy am y stori ar raglen Wales Live ar BBC One Cymru am 22:45 nos Fercher, 4 Tachwedd.