Ydy Cymru gyfan yn barod am ddiwedd y cyfnod clo?

  • Cyhoeddwyd
Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Merthyr wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion positif ers dechrau'r cyfnod clo

Mae cwestiynau wedi'u codi ynglŷn ag a ydy Cymru gyfan yn barod i'r cyfnod clo ddod i ben ddydd Llun.

Dros yr wythnos ddiwethaf, Merthyr Tudful ydy'r sir sydd wedi cael y nifer fwyaf o achosion am bob 100,000 o bobl trwy'r DU gyfan.

Roedd 741 o achosion ar gyfer pob 100,000 yno yn yr wythnos hyd at 1 Tachwedd, ond mae'r ffigwr hynny wedi gostwng i 640 bellach.

Mae bron i un ym mhob tri pherson sy'n cael eu profi am Covid-19 yno yn derbyn canlyniad positif.

Mae meddyg wedi rhybuddio y gallai fod angen mesurau ychwanegol yn yr ardal honno am wythnosau, os nad misoedd yn rhagor.

Mae nifer yr achosion ar gyfer pobl 100,000 o bobl hefyd yn parhau'n uchel iawn yn Rhondda Cynon Taf (556), Blaenau Gwent (509) ac Abertawe (396).

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o gael mesurau lleol mewn grym, ac fe wnaethon nhw rybuddio cyn dechrau'r cyfnod clo na fyddai modd gweld effaith y cyfyngiadau llymach ar y ffigyrau am rai wythnosau.

Pa reolau fydd mewn grym ddydd Llun?

Mae Llywodraeth Cymru yn llacio'r cyfyngiadau yn raddol, ac mae'r rheolau fydd mewn grym ddydd Llun yn fwy llym na'r rheiny oedd mewn grym ar ddiwedd yr haf.

Fel rhan o'r rheolau newydd o 9 Tachwedd bydd modd creu aelwyd estynedig gydag un cartref arall yn unig, ac ni fydd modd mynd i dafarn neu fwyty gyda mwy na phedwar person os ydyn nhw'n dod o aelwydydd gwahanol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Gwener: "Er mwyn cadw'r feirws dan reolaeth, mae'n rhaid i ni feddwl am ein bywydau ein hunain a sut y gallwn gadw ein teuluoedd yn ddiogel a pheidio meddwl am wthio'r cyfyngiadau i'r eithaf.

"Bydd set o fesurau cenedlaethol fydd yn dod i rym ddydd Llun. Dydyn ni ddim yn dychwelyd i'r rhwydwaith o fesurau lleol oedd mewn grym cyn y cyfnod atal."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn credu y dylid ystyried symud yn syth at system o fesurau lleol, fel oedd mewn grym cyn y cyfnod clo byr.

"Bydd gennych chi wedyn lefel arferol o gyfyngiadau ledled Cymru - gan ddod â'r cyfnod clo i ben fel oedd y bwriad - ond cael cyfyngiadau llawer llymach, gyda mwy o gefnogaeth, mewn ardaloedd ble mae'r lefelau'r haint yn uchel," meddai.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies hefyd yn dweud y dylid ystyried mesurau lleol mewn rhai mannau.

"Pe bai gweinidogion Llafur yn gweithredu eu polisi Covid yn gyson, fe fyddan nhw yn ailystyried eu penderfyniad i lacio cyfyngiadau mewn ardaloedd ble mae achosion yn uchel, fel Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf ddydd Llun," meddai.

'Angen rhoi rhyddid i'r gymuned'

Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Kevin O'Neill fore Gwener na fyddai'n gefnogol o weld y cyfnod clo yn parhau yno, ac y byddai llacio'r cyfyngiadau yn raddol yn syniad gwell.

"Dydy pobl ddim wedi bod yn dilyn y rheolau ar rai achlysuron, ond mae llawer o bobl wedi. Dyw hi ddim yn iawn cosbi'r rheiny," meddai.

"Mae 'na glystyrau yn y gymuned, ond maen nhw mewn llefydd fel ffatrïoedd, ysgolion a rhai yn yr ysbyty.

"Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ble mae'r clystyrau hynny a chanolbwyntio ar gael y negeseuon cywir i'r cyhoedd a phrofi'n iawn, ond mae hefyd angen rhoi ychydig o ryddid i'r gymuned.

"Mae angen i ni ddychwelyd i'n bywydau arferol, ein bywydau cymdeithasol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yr achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl wedi gostwng ym Merthyr dros y dyddiau diwethaf

Ond mewn datganiad ar y cyd brynhawn Gwener dywedodd Aelod Seneddol ac Aelod Senedd Cymru yr ardal - Gerald Jones a Dawn Bowden - bod angen "gweithredu pellach".

"Mae'r sefyllfa bresennol ym Merthyr Tudful yn parhau'n ddigon difrifol i fod angen gweithredu pellach," meddai'r ddau.

"Ry'n ni'n credu bod angen i sefyllfa'r feirws o fewn y boblogaeth leol fod yn fwy eglur, ac mae angen i brofion gynyddu ymhellach.

"Ry'n ni ar hyn o bryd yn trafod y sefyllfa gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr iechyd cyhoeddus a'r awdurdod lleol."

Dadansoddiad Gohebydd BBC Cymru, Huw Thomas

Mae cyfradd y profion positif am COVID-19 yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan, neu'n dechrau gostwng, mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Cyfradd y profion positif ydy un o'r ffyrdd allweddol o nodi lefelau coronafeirws mewn cymunedau.

Mae'r newid yn awgrymu bod y cyfnod clo presennol yn cael effaith, gan fod y newid hefyd i'w weld yn y gyfradd ar gyfer Cymru gyfan.

Ond os mai'r cyfyngiadau cenedlaethol sy'n gyfrifol, mae'r data hefyd yn awgrymu bod angen mwy o amser i ddod â chyfradd y profion positif yn is na'r lefelau a oedd wedi gorfodi cyfyngiadau lleol ar ôl yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfradd y bobl sy'n cael profion positif wedi sefydlogi yn siroedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ers dechrau'r cyfnod clo

Bydd Merthyr yn gadael y cyfnod clo gyda chyfradd sydd tua chwe gwaith yn uwch na'r gyfradd o 5% oedd wedi gorfodi rhai awdurdodau lleol i wynebu cyfyngiadau.

29.5% ydy cyfradd y profion positif ym Merthyr ar gyfartaledd dros 7 diwrnod. Nôl ym mis Hydref fe estynnwyd cyfyngiadau lleol ardal sir Caerffili ar ôl cyrraedd cyfradd positifrwydd o 5.2%.

Tra bod y mesur yma yn awgrymu bod y cyfnod clo yn cael effaith, y peryg yw y bydd cyfradd y profion positif yn cynyddu eto pan mae'r cyfyngiadau yn cael eu llacio.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pawb wedi blino â'r rheolau," meddai Dr Dai Samuel

Ond mae Dr Dai Samuel, Haemotolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn credu ei bod yn bosib y bydd angen mesurau ychwanegol ym Merthyr Tudful am "wythnosau, hyd yn oed misoedd i ddod".

"Mae pawb wedi blino â'r rheolau. Maen galed dweud bo' ni'n mynd nôl i'r arfer dydd Llun pan mae'r niferoedd yn mynd lan," meddai ar y Post Cyntaf fore Gwener.

"Yn bersonol rwy'n credu efallai y bydd yn rhaid i Ferthyr aros o dan glo am wythnosau, hyd yn oed misoedd i ddod.

"Yn draddodiadol mae llefydd fel Merthyr a'r cymoedd yn gyffredinol wedi tynnu at ei gilydd mewn cyfnodau caled, a dwi'n credu bod yn rhaid i ni gyd nawr alw ar ein ffrindiau a'n perthnasau a'r gymuned yn gyffredinol i ddilyn y rheolau; i wisgo mwgwd, i gadw dau fetr i ffwrdd a pheidio mynd i lefydd heb fod angen.

"Falle bod angen codi dirwyon a gofyn i bobl 'lle chi 'di cael Covid?', achos ar hyn o bryd dyw e ddim yn gweithio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru yn cael eu llacio ddydd Llun

Ond fe wnaeth y feirolegydd Dr Elisabetta Gropelli gytuno gyda rhybudd y llywodraeth na fyddai modd gweld effaith y cyfnod clo byr am bythefnos arall.

"Pwynt y cyfnod clo oedd arafu pethau, gan gael y ffigyrau i lawr a newid llwybr y pandemig," meddai.

"Bydd yn rhaid i ni ddisgwyl cwpl o wythnosau eto er mwyn gweld effeithiau'r cyfnod clo.

"Ond ni fydd y 'cyfnod tân yma yn diffodd y tân - mae'n parhau i losgi yng Nghymru a thu hwnt i Gymru, ac felly mae'r sefyllfa'n parhau yn ddifrifol iawn."