Arestio chwech wedi digwyddiad herwgipio plentyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae chwe pherson wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau bod pobl wedi defnyddio cyllell i geisio herwgipio plentyn ar Ynys Môn ddydd Mercher.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi ymateb i'r adroddiadau ar 4 Tachwedd am tua 16:00.

Yn dilyn ymchwiliad cyflym iawn, fe gafodd cerbyd ei atal - ar gais Heddlu'r Gogledd - yn sir Northampton yn ddiweddarach y noson honno, ac fe gafodd y plentyn ei ganfod yn ddiogel.

Mae chwe oedolyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

'Nid ymosodiad gan ddieithryn'

Mae adran ymchwiliadau difrifol y llu yn delio gyda'r digwyddiad, a dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Gareth Evans: "Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad brawychus i'r rhai dan sylw.

"Rydym wedi canolbwyntio drwyddi draw ar achub y plentyn yn ddiogel ac yn iach ac rwy'n hapus i ddweud bod hyn wedi'i gyflawni.

"Hoffwn ddiolch i'n cydweithwyr yn Sir Northampton am eu cefnogaeth gyflym.

"Gallaf dawelu meddwl ein cymunedau ar Ynys Môn nad ymosodiad gan ddieithryn oedd hwn, bod y digwyddiad wedi'i ynysu ac rydym yn delio â'r rhai yr ydym yn amau eu bod yn cymryd rhan."