Mwy o nyrsys 'yn derbyn cymorth iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o nyrsys yn derbyn cymorth iechyd meddwl oherwydd effaith Covid-19, meddai undeb nyrsio.
Dywedodd y Coleg Brenhinol Nyrsio yng Nghymru fod gan rai staff anhwylder PTSD o ganlyniad i weithio trwy'r pandemig Covid-19.
Dywedodd y coleg ei fod bellach yn ehangu ei wasanaeth PTSD i aelodau.
Mae ffigurau ddaeth i law BBC Cymru yn awgrymu bod o leiaf 270,000 diwrnod wedi eu colli i'r GIG yng Nghymru oherwydd Covid, rhwng mis Mawrth ac Awst eleni.
"Mae rhai o'n staff wedi bod yn gleifion eu hunain, ac wedi bod mewn gofal dwys neu ofal critigol," meddai cyfarwyddwr cyswllt yr undeb, Nicky Hughes, wrth BBC Wales Investigates.
"Rwy'n credu bod rhywfaint o'r salwch o gwmpas pobl sy'n diflannu nawr oherwydd materion iechyd meddwl, felly nid Covid ei hun yn unig nac ynysu ydy hyn, mewn gwirionedd nawr mae'n effeithio ar staff.
"Mae mwy a mwy o bobl yn gofyn am gefnogaeth gyda materion iechyd meddwl.
"Rydyn ni'n gweld cleifion, ac aelodau staff - nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd - sydd wedi profi PTSD."
Gofynnodd BBC Cymru i'r saith bwrdd iechyd am ddata ar absenoldeb salwch gweithwyr o ganlyniad i Covid-19.
Mae'r ffigurau'n cynnwys rhai a oedd yn cysgodi, yn ynysu oherwydd eu symptomau eu hunain, neu'n ynysu oherwydd cyswllt ag achos cadarnhaol.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, roedd mwy na chwarter holl absenoldeb salwch yn gysylltiedig â Covid.
Dywedodd yr undeb y dylai'r ffigurau atgoffa pobl i gadw at reolau sydd wedi'u cynllunio i atal yr haint rhag lledaenu, wrth i'r cyfnod clo diweddaraf ddod i ben.
"Rwy'n credu efallai dros yr haf ein bod wedi mwynhau cael ychydig bach mwy o ryddid i wneud yr hyn yr ydym am ei wneud," meddai Ms Hughes.
"Mae'n rhaid i ni gael ein pennau yn ôl i'r gofod hwnnw o 'hyn rwy'n ei wneud fel person, bydd fy ngweithredoedd yn cael dylanwad uniongyrchol ar bobl eraill o'm cwmpas.... nid yn unig i'r GIG, ond i'r gwasanaethau brys eraill sydd allan mewn cartrefi gofal a lleoedd fel hynny hefyd.
"Felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd edrych ar ein hunain a chymryd cyfrifoldeb am yr hyn rydyn ni'n ei wneud, a cheisio bod mor ddiogel ag y gallwn ni fod."
Bydd 'BBC Wales Investigates: The hidden cost of Covid' ar BBC One Wales ar ddydd Llun 9 Tachwedd am 20.30,
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020