Croesi'r trothwy o 2,000 o farwolaethau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
prawf gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfanswm y marwolaethau gyda Covid-19 yng Nghymru wedi pasio 2,000 am y tro cyntaf, ar ôl i 32 marwolaeth arall gael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn.

Mae cyfanswm o 2,014 o bobl wedi marw o'r haint yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau.

O'r 32 marwolaeth newydd gyda Covid-19 a gafodd eu cyhoeddi heddiw, roedd 13 yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan a 10 yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Bu tair marwolaeth yr un yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe ac ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n cynnwys gogledd Cymru, gyda dwy farwolaeth yng Nghaerdydd a'r Fro ac un yn Hywel Dda yn y gorllewin.

Cyhoeddwyd 958 o brofion positif pellach i Coronavirus hefyd, gan fynd â'r cyfanswm i 59,237.

Roedd 137 achos newydd yn Rhondda Cynon Taf, 108 yng Nghaerdydd, 103 yn Abertawe, 90 yng Nghaerffili, 64 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 55 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 46 ym Merthyr Tudful a 44 ym Mlaenau Gwent.

Mae gan Ferthyr Tudful y gyfradd barhaol uchaf o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf o hyd, sef 610. Yn Rhondda Cynon Taf mae'n 517.3,

Cafodd 11,252 o brofion eu cynnal ddoe.