Pro14: Gweilch 7-26 Leinster
- Cyhoeddwyd
Mae gallu ennillwyr y Pro-14 y tymor diwethaf, Leinster, i ddal gafael ar y gynghrair yn parhau wrth iddyn nhw chwalu'r Gweilch ar eu tomen eu hunain brynhawn dydd Sul.
Er taw'r Gweilch sicrhaodd pwyntiau cynta'r gêm, diolch i gais gosb gynnar, y Gwyddelod oedd ar y blaen ar yr hanner - o 19-7 - yn dilyn ceisiadau gan James Tracy, Dave Kearney a Scott Penny.
Fe sicrhaodd Peter Dooley bwynt bonws i Leinster, yr unig sgôr yn yr ail hanner.
Mae'r pumed buddugoliaeth o bump gêm yn cadw Leinster ar frig Grwp A, tra bod y Gweilch yn aros yn y trydydd safle.