Cymru'n ennill Cwpan Dartiau'r Byd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jonny Clayton ar ôl ennill cwpan y byd dartiau

Mae Cymru wedi ennill Cwpan Dartiau'r Byd am y tro cyntaf ar ôl trechu'r ffefrynnau, Lloegr yn Awstria nos Sul.

Llwyddodd Gerwyn Price a Jonny Clayton i drechu Michael Smith a Rob Cross o 3-0 i ennill y rownd derfynol.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol ddwywaith o'r blaen, ond colli oedd eu hanes yn 2010 a 2017.

Ffynhonnell y llun, PDC
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Gerwyn Price a Jonny Clayton i drechu Lloegr i ennill y rownd derfynol

"Fi yw'r dyn mwyaf balch yn y byd ar hyn o bryd," meddai Clayton wedi'r fuddugoliaeth.

"I chwarae gyda'r chwaraewr grêt yma - y gorau yn y byd ar y funud - mae'n wych.

Ychwanegodd Price: "Mae ennill hon i Gymru yn golygu lot."