Economi Cymru eisoes yn crebachu cyn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
TonypandyFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd economi Cymru yn gwanhau hyd yn oed cyn i'r pandemig daro, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn nhri mis cyntaf 2020 fe wnaeth cynnyrch domestig gros (GDP) Cymru ostwng 2.4%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd yr economi eisoes wedi crebachu 1.1% rhwng Hydref a Rhagfyr 2019.

GDP - gwerth yr holl gynnyrch a'r holl wasanaethau sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru - sy'n cael ei ddefnyddio i fesur cryfder yr economi.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud mai'r diwydiant addysg wnaeth ddioddef fwyaf rhwng Ionawr a Mawrth, gyda'r diwydiant trafnidiaeth a'r celfyddydau wedi ei chael yn anodd hefyd.

Ar draws y DU fe wnaeth GDP ostwng 2.5% yn y tri mis hyd at fis Mawrth - 0.1% yn fwy na'r gostyngiad yng Nghymru.