Agor cwest i farwolaeth dyn o Wynedd fu farw mewn afon

  • Cyhoeddwyd
Alun OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Owen yn gallu "goleuo hyd yn oed y diwrnodau tywyllaf" medd ei deulu

Cafodd cwest ei agor i farwolaeth dyn o Wynedd fu farw mewn afon yn Abergwyngregyn ger Bangor fis diwethaf.

Bu farw Alun Owen, 32 oed o Fethesda wrth geisio gosod gwifren ffôn i gwsmer tra'n gweithio fel peiriannydd i Openreach ar 6 Hydref.

Wrth agor y cwest i'w farwolaeth, dywedodd y dirprwy grwner Katie Sutherland fod canlyniadau'r post mortem yn awgrymu fod Mr Owen wedi boddi.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a'r Gwethgor Iechyd a Diogelwch yn cael ei gynnal.

Dywedodd teulu Mr Owen yn dilyn y farwolaeth bod "dim geiriau i ddisgrifio'r boen o golli Al", a'u bod nhw'n "hollol dorcalonnus, a'n brwydro i geisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau trasig y diwrnod yna".