'Cyfyngu'r cysylltiad â'r teulu wedi newid fy mab'
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn ag anableddau dysgu yn dweud ei fod "wedi newid" oherwydd diffyg cysylltiad gyda'i deulu yn ystod y pandemig.
Ni welodd Lynn Coleman ei mab, Neil am 14 o wythnosau yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Ers hynny mae ond wedi gallu ei gyfarfod yn yr awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol, ac mae'n dweud ei fod bellach yn dawedog, trist ac "eithaf ar goll".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ac yn dweud eu bod yn cydnabod "pwysigrwydd cysylltiad dynol ar iechyd meddwl a lles".
Mae elusennau'n dadlau fod hawliau dynol pobl ag anableddau dysgu wedi'u torri gan fod gormod o bwyslais ar eu gwarchod rhag coronafeirws ar draul eu lles emosiynol a meddyliol.
Fel yn achos llawer o oedolion ag anableddau dysgu, mae Neil, 35, mewn llety byw â chymorth - llety y mae'n ei rannu ag eraill ble mae gofal ar gael ddydd a nos.
Cyn yr argyfwng coronafeirws roedd yn ymweld â chartref ei fam yn rheolaidd ac roedd hithau'n cael ymweld ag yntau.
Ond fe ddaeth hynny i ben ym mis Mawrth.
'Torcalonnus'
"Roedd yn wirioneddol ofidus," meddai Ms Coleman. "Doedd e methu deall, mewn gwirionedd, pam nad oeddwn yn ei weld e.
"Rwy' wir yn meddwl ei fod yn meddwl 'dydy fy nheulu ddim fy eisiau rhagor', ac roedd hynny'n dorcalonnus. Mae'n dal yn dorcalonnus."
Wedi i'r cyfyngiadau lacio yn yr haf, chafodd Neil, sy'n byw yn Aberafan, yng Nghastell-nedd Port Talbot, ddim creu aelwyd estynedig gyda'i fam.
Roedd hynny'n golygu eu bod ond yn gallu cyfarfod tu allan gan gadw dau fedr ar wahân.
"Mae'n ddryslyd - 'pam na ydi hi'n serchus tuag ata'i, pam bod hi'n cadw oddi wrtha'i?" meddai'i fam.
"Mae Neil yn fachgen sydd wedi newid. Mae'n dawedog, mae'n anhapus, mae'n drist ac mae'n eitha' ar goll."
Mae Neil wedi cael meddyginiaeth ar gyfer gorbryder ac iselder.
"Mae'n ofnadwy oherwydd mae ganddo oed meddyliol plentyn, ac mae fel gweld eich plentyn ifanc mewn trallod a 'dach chi methu gwneud dim byd yn ei gylch."
'Sawl teulu wedi dryllio'
Mae rhaglen Wales Live BBC Cymru wedi siarad â nifer o deuluoedd ar draws Cymru sydd yn yr un sefyllfa â Lynn Coleman a Neil, ac yn gorfod cadw cysylltiad gyda'u hanwyliaid tu allan neu mewn galwadau fideo.
Yn ôl Kate Young o elusen Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan (AWF) mae'r sefyllfa wedi bod yn "anodd iawn" i lawer, a dydy galwadau fideo ddim cystal â chysylltiad gwirioneddol.
"Mae wedi dryllio rhai teuluoedd i orfod mynd chwe, saith, wyth, naw mis heb allu gweld y person maen nhw'n caru ac wedi gofalu amdanyn nhw cyhyd yn y cnawd," meddai.
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw newydd yn datgan y dylid trin pobl sy'n byw â chymorth yn yr un ffordd â thenantiaid eraill sy'n byw dan un to, fel myfyrwyr.
Mae'r canllaw'n nodi bod modd creu aelwyd estynedig â phobl o aelwyd arall, fel rhieni a phartneriaid neu frodyr a chwiorydd.
Mae'r canllaw'n "glir", medd llefarydd Llywodraeth Cymru, fod pobl sy'n byw â chymorth yn gallu bod mewn aelwyd estynedig "tra'n cydnabod yr angen i weithio gyda nhw a'u teuluoedd i reoli'n ofalus unrhyw risgiau iddyn nhw a'u gofalwyr".
'Elfen o or-ymateb'
Mae'r corff Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn cynrychioli lleisiau dynion a merched gydag anabledd dysgu ar lefel genedlaethol.
Yn ôl prif weithredwr y corff, Joe Powell, mae'r canllaw "yn bositif" ond mae'n rhwystredig iddi gymryd cyhyd i'w gyhoeddi.
Mae hefyd yn gofidio bod hi'n "eithaf annelwig" sut fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch materion fel aelwydydd estynedig.
Creda Mr Powell bod "hawliau dynol wedi'u torri yn sylfaenol" yn achos pobl ag anableddau dysgu yn ystod y pandemig, a bod elfen o or-ymateb i'r argyfwng.
Mae'n dadlau fod y camau hyd yma "heb fod y rhai lleiaf caeth neu'n gymesur i'r sefyllfa".
Dywedodd: "Mae pobl wedi cael eu hynysu. Maen nhw wedi bod yn unig. Mae trafferthion iechyd meddwl pobl wedi dwysáu yn sgil hyn..."
Ychwanegodd fod yna bobl "sydd heb allu cyflawni'u dyletswyddau lles dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru a deddfwriaethau allweddol eraill Llywodraeth Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod wedi gweithredu o fewn y canllaw cyfredol ers dechrau'r pandemig a bod y sefyllfa'n "parhau'n heriol".
"Dydy penderfyniadau heb eu gwneud ar chwarae bach," meddai, "ac maen nhw ar sail yr angen i gydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles a'u gwarchod rhag y risg o gael eu heintio."
Wales Live, nos Fercher 11 Tachwedd, BBC One Wales, 22:30 ac yna ar BBC iPlayer
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020