Ansicrwydd Covid-19 yn her ychwanegol i bobl ag anableddau

  • Cyhoeddwyd
Guto a Iola
Disgrifiad o’r llun,

Guto a'i fam Iola Gruffudd

Wrth i'r pandemig coronafeirws barhau mae ceisio deall pam fod strwythur bywyd yn gorfod newid yn gallu bod anodd i bawb ac yn anoddach fyth i bobl sy'n byw efo anableddau neu anghenion arbennig.

Yn ôl un teulu o Wynedd mae addasu i'r cyfnod newydd wedi bod yn "drwm iawn" ar y teulu oll.

Mae Guto Llewelyn Jones, 20 o Waunfawr, yn byw â chyflwr parlys yr ymennydd ac epilepsi ac mae strwythur ei fywyd bellach wedi'i chwalu.

Yn ôl ei fam, Iola Gruffudd, mae'n bwysig cael cefnogaeth teulu a ffrindiau dros y we.

'Colli cwmnïaeth a chefnogaeth'

Mae anghenion ychwanegol Guto yn golygu fod strwythur dyddiol yn "eithriadol o bwysig" gan mai hynny sy'n rhoi'r sicrwydd iddo o be' sy'n digwydd nesa'.

"Roedd Guto yn mynd i Goleg Meirion Dwyfor ac yn gadael y tŷ am 07:45 bob dydd a ddim adre tan 16:45 yn y prynhawn," meddai Iola Gruffudd.

"Roedd yn gwneud hyn bedwar diwrnod yr wythnos ac yn mynd i Antur Waunfawr ar ddydd Mercher.

"Ond bellach mae hynny i gyd wedi mynd felly mae'n colli'r gwmnïaeth a ninnau'n colli'r gefnogaeth."

Gyda Guto bellach yn treulio mwyafrif y diwrnod adref mae'r teulu wedi gorfod addasu eu bywydau.

"'Dan ni heb arfer treulio 12 awr yn effro efo Guto ac er mor hyfryd ydy o, mae o angen lot fawr o sylw ac mae hynny yn gallu bod yn drwm iawn arnom ni fel teulu."

Er y pwysau ychwanegol mae Iola a'r teulu yn mynnu ei bod hi'n bwysig ceisio ail-greu sefyllfaoedd cyfarwydd i Guto i geisio ei ddiddanu.

Fel arfer byddai Guto yn mwynhau mynd am dro i'r llyfrgell leol yng Nghaernarfon bob dydd Sadwrn.

Gan nad yw hynny bellach yn bosib mae'r teulu wedi creu llyfrgell dros dro yn yr ystafell wely iddo ddewis ei lyfrau unwaith yr wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Guto yn perfformio i grŵp Facebook Côr-ona

"'Dan ni hefyd yn trio defnyddio'r strwythurau sy'n bodoli'n barod fel amserlenni Radio Cymru ac S4C - mae hynna'n rhoi sicrwydd i Guto," ychwanega Iola Gruffudd.

"Mae'r holl sefyllfa wedi creu lot fawr o ansicrwydd iddo ac mae'n gofyn lot am be' sy'n digwydd nesa'."

Côr-ona yn helpu

Yng nghanol cyfnod mor ansicr mae Guto wedi gweld llawer o werth yng ngrŵp Facebook Côr-ona ac i weld yn canu'n gyson yno.

"'Dan ni'n 'neud defnydd helaeth o'r offer digidol fel Facetime efo'i nain a'i chwaer sydd yng Nghaerdydd," meddai Iola.

Wrth i Guto a'r teulu geisio addasu ac ymdopi â'r drefn newydd o fyw - eu neges nhw yw "gwneud y mwyaf o'r offer a'r cymorth sydd ar gael".