Corff arholiadau yn bryderus am argymhellion safoni
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr y corff sydd yn rheoleiddio arholiadau Cymru wedi dweud ei fod yn poeni am sut y bydd cynlluniau'r llywodraeth i asesu disgyblion yn cael eu cyflawni.
Dywedodd Philip Blaker o Gymwysterau Cymru wrth gyfarfod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd fod y corff yn poeni am yr argymhellion newydd ar gyfer TGAU, AS a Safon Uwch a gyflwynwyd gan y gweinidog addysg ddydd Mawrth.
Dywedodd fod yna lawer o "feddwl gwreiddiol cyflym iawn" angen ei wneud.
Roedd Cymwysterau Cymru wedi cyflwyno eu cynigion eu hunain, oedd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cynnal rhywfaint ond llai o arholiadau Safon Uwch.
Byddai wedi bod modd cyflawni hyn, meddai Mr Blaker, oherwydd bod y drefn yn adeiladu ar dechnegau asesu hysbys ac yn gallu gweithredu o fewn y strwythur presennol o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd wrth y pwyllgor fod y diffyg strwythur parhaus wrth i gynigion newydd y gweinidog gael eu datblygu yn golygu ansicrwydd fydd yn cael effaith ar les athrawon a dysgwyr.
Heb strwythur, roedd risg y gallai ysgolion asesu gormod ac fe allai hyn gael mwy o effaith ar les myfyrwyr, meddai.
Ychwanegodd fod angen llawer o waith i sicrhau "cysondeb a thegwch ar draws ysgolion".
Yn benodol, dywed Cymwysterau Cymru eu bod yn poeni am asesiadau dan arweiniad athrawon - lle mae canlyniad asesiadau yn cael ei bennu yn y pen draw gan athro'r disgyblion. Gallai hynny arwain at anghysondeb pellach, meddai'r corff.
Dywedodd Philip Blaker fod dadansoddiad Cymwysterau Cymru wedi canfod, hyd yn oed gyda graddau chwyddedig 2020, fod graddau ysgolion neu goleg yn amrywio'n fawr.
Mae Kirsty Williams wedi dweud y bydd yn rhoi chwe wythnos i grŵp cynghori ddarganfod sut i gyflawni ei chynlluniau yn ymarferol.
Cwestiynau i'w datrys
Ond dywed Mr Blaker fod yna lawer o gwestiynau o hyd y mae angen eu datrys.
Un ohonynt yw ai fydd apêl yn erbyn canlyniadau dan arweiniad athrawon yn arwain at ysgolion yn gorfod clywed a gwneud penderfyniadau ar apeliadau disgyblion eu hunain.
Roedd hefyd yn cwestiynu sut y gallai disgyblion sydd yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol gael eu hasesu'n deg.
Dywedodd fod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir, oherwydd yn y pen draw, byddai CBAC yn cyhoeddi tystysgrifau ac roedd angen iddyn nhw roi sicrwydd am y canlyniadau hynny.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Blaker, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wrth BBC Radio Wales: "Mae ein grŵp newydd sydd wedi'i sefydlu i weithio ar y manylion yn cwrdd yfory - mae Philip Blaker yn rhan o'r grŵp hwnnw - y nod yw sicrhau bod y system yn deg ac yn gadarn. Mae llawer o waith i'w wneud."
Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr corff arholiadau CBAC - Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru - wrth bwyllgor y Senedd y bydd angen ymdrech sylweddol i sicrhau proses sydd "yn gyflawnadwy, yn deg ac yn gytbwys o fewn amserlen fer… nid yn unig o safbwynt CBAC ond gan y gymuned addysg ehangach.
"Nid ydym eisiau i unrhyw anghytuno sydd yn digwydd nawr godi eto yn haf 2021," meddai.
'Ar ei hôl hi eisoes'
Dywedodd bod yn rhaid i bawb fod yn onest ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni a bod angen i beth bynnag fydd yn digwydd ddiwallu anghenion pob dysgwr.
"Rwy'n credu y bydd y naid o fynd i lawr y llwybr o asesiadau gan athrawon yn addas i rai dysgwyr. Yn sicr nid yw'n addas i bob dysgwr. Felly mae angen cydbwyso beth bynnag rydyn ni'n ei roi ar waith."
Dywedodd fod angen i'r grŵp a fyddai'n cynghori'r gweinidog ar gyflawni'r cynigion weithio'n gyflym iawn.
"Mae'n debyg ein bod ni ar ei hôl hi eisoes o ran lle mae angen i ni fod i gyflawni rhai o'r pethau hyn.
"Ar ddiwedd y dydd, mae CBAC yn ardystio ac mae fy enw yn mynd ar waelod y tystysgrifau hynny ac felly mae'n rhaid i mi fod yn gyffyrddus yn ogystal â'r sefydliad bod yr hyn sy'n cael ei roi ar waith yn rhoi canlyniad teg i bob dysgwr.
"Bydd ein sefydliad yn ymrwymo i wneud beth bynnag sydd angen i ni ei wneud oherwydd ein bod ni eisiau bod yn rhan o'r datrysiad nid yn rhan o'r broblem, ond mae rhai materion allweddol sydd angen eu datrys er mwyn i ni allu barhau â'r gwaith mewn ffordd glir ac effeithiol."
'Croeso cynnes iawn'
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod awdurdodau lleol wedi rhoi "croeso cynnes iawn" i gyhoeddiad y gweinidog oherwydd "ei fod yn rhoi'r bobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf yn hyn wrth galon y broses".
"Mae'r system gymwysterau... yn rhywbeth a ddylai gydnabod cyflawniadau'r bobl ifanc ac mae angen iddo addasu, fel y mae ein hysgolion wedi'i wneud, trwy gydol yr argyfwng hwn, i'r ffaith bod angen cymwysterau arnom o hyd ond bod angen i ni addasu i anghenion y disgybl yn ystod amgylchiadau sydd yn newid.
"Mae wedi cymryd pwysau sylweddol oddi ar ysgwyddau dysgwyr, athrawon ac arweinwyr ysgolion," meddai.
Dywedodd Kay Martin, pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd Colegau Cymru mai dyma'r canlyniad yr oedd dysgwyr yn y sector addysg bellach ei eisiau hefyd.
"Er na fydd cytundeb cyffredinol byth am ba bynnag benderfyniad a wnaeth y gweinidog, fe'i croesawir yn gyffredinol. Nawr mae'n rhaid i ni gyda'n gilydd sicrhau bod modd ei gyflawni o fewn yr amserlen."
Ond lleisiodd bryder am y "sefyllfa heriol" ar gyfer cymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
"Rydyn ni'n gweithio gyda thua 40 o sefydliadau dyfarnu sy'n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig... ac felly mae'n rhaid i ni aros gyda phob un o'r cyrff dyfarnu hynny i weithio gyda nhw i weld pa newidiadau y byddan nhw'n eu gwneud ond nid oes gennym ni reolaeth ar hynny yng Nghymru.
"Rydym yn gweithio gyda'r rheiny ac mae gennym gytundeb gyda llawer o'r rheiny ledled Cymru, ond mae heriau yno oherwydd mae arholiadau yn parhau ym mis Ionawr ar gyfer llawer o gyrsiau Pearson ac mae gennym lawer o ddysgwyr yng Nghymru o hyd sy'n dal i gwblhau cymwysterau o'r llynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020