Plaid Cymru'n addo 'chwyldroi' cefnogaeth iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth iechyd meddwl 74% o bobl ifanc 13-24 oed waethygu yn ystod y cyfnod clo cyntaf, yn ôl arolwg
Mae Plaid Cymru'n addo "chwyldroi" y ffordd y mae cefnogaeth iechyd meddwl yn cael ei ddarparu i bobl ifanc os yw'n ennill etholiad Senedd Cymru.
Dywed y blaid y byddai'n sefydlu rhwydwaith o "siopau un stop" ledled Cymru lle gallai pobl fynd am gyngor.
Yn ôl llefarydd iechyd y blaid byddai'r polisi, sy'n yn seiliedig ar fodel a ddefnyddir yn Seland Newydd, yn costio £7m.
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth fod y pandemig wedi tynnu sylw at yr angen am well gwasanaethau.
Byddai'r cynllun cychwynnol yn gweld 14 o ganolfannau yn cael eu sefydlu mewn adeiladau gwag mewn trefi ar draws Cymru lle gallai pobl ifanc ofyn am gymorth gan therapyddion a chwnselwyr.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y pandemig wedi amlygu'r angen am well gwasanaethau iechyd meddwl
"Mae angen i'r newidiadau o ran gwasanaethau a'u hargaeledd fod yn chwyldroadol," meddai Mr ap Iorwerth.
"Bydd canolfannau 'siop-un-stop' Plaid Cymru yn rhan allweddol o'r trawsnewidiad hwnnw mewn gwasanaethau i bobl ifanc.
"Byddai'r canolfannau hyn yn cynnig cwnsela drwy apwyntiad ond hefyd - yn hollbwysig - ar sail galw i mewn.
"Mae gennym eisoes wasanaethau galw i mewn ar gyfer problemau corfforol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, felly mae'n iawn cael gwasanaethau galw i mewn i'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl."

'Pwnc eitha' tabŵ'

Mae Heledd James yn croesawu'r polisi, ond yn amau faint o bobl fyddai'n ei ddefnyddio mewn gwirionedd
Mae Heledd James, sy'n fyfyrwraig yng Nghaerfyrddin, wedi byw gydag iselder a gorbryder ers ei dyddiau ysgol.
"Gallech chi gael mis hollol amazing a chi'n hapus ond wedyn gall un peth bach triggero chi a chi'n teimlo fel yn lle cymryd cam 'mlaen chi'n cymryd deg cam 'nôl," meddai.
Mae Heledd yn croesawu polisi Plaid Cymru, er bod ganddi ei amheuon hefyd.
"Fi'n meddwl bydde hwnna'n beth rili positif i gael yng Nghymru, a fi'n credu bydde fe'n ffordd dda - yn enwedig yn sgil y pandemig - i gymryd bach o bwyse oddi wrth yr ysgolion.
"Ond wedyn faint o bobl fydde'n defnyddio nhw achos mae e dal yn anffodus yn bwnc eitha' tabŵ."

'Iechyd meddwl wedi gwaethygu i 74%'
Yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe fe brofodd 76.6% o bobl ifanc 16-24 oed drallod o "arwyddocâd clinigol" o ganlyniad i'r pandemig.
Canfu arolwg arall gan Mind Cymru fod 74% o bobl ifanc 13-24 oed wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi "gwaethygu" yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
"Ni ddylid gadael unrhyw berson ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw gymorth, yn enwedig yn dilyn un o'r cyfnodau mwyaf o newid yn ein hanes," meddai Mr ap Iorwerth.
"Heb ofal, gall iechyd meddwl gwael yn ystod plentyndod a'r glasoed arwain at broblemau iechyd meddwl pan yn hŷn, ac felly mae'n bwysig iawn darparu cymorth cynnar yn hawdd i unrhyw berson ifanc sydd ei angen."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth "amserol ac addas" ar gael i blant a phobl ifanc.
"Rydyn ni'n gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc - o ymyrraeth gynnar, yn cynnwys cwnsela mewn ysgolion, i wasanaethau arbenigol i'r rhai sy'n ddifrifol wael", meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020