Cymru 1-0 Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Cymru oedd yn dathlu nos Sul wedi iddyn nhw drechu Gweriniaeth Iwerddon o un gôl i ddim yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd yna ddechrau cystadleuol i'r gêm gyda'r ddwy ochr yn ymdrechu i sicrhau meddiant.
Daeth cic gornel gyntaf Cymru, o dan arweiniad y dirprwy reolwr Robert Page sydd wrth y llyw yn absenoldeb Ryan Giggs, wedi 13 o funudau ond fe aeth peniad Joe Rodon dros y trawst.
Llwyddodd Darren Randolph i atal perygl posib wrth i Gareth Bale geisio rhyddhau Dan James, ond yn fuan wedi hynny roedd Robbie Brady'n agos at sgorio wrth i'r Gwyddelod ddechrau gael y gorau o'r ymdrechion ar y gôl.
Wedi dryswch ymhlith yr amddiffyn ben arall y maes, fe gododd cyfle i David Brooks ergydio ond fe wyrodd y bêl ac roedd yr arbediad yn un hawdd.
Roedd cic rydd Bale o 35 llath yn agos ond aeth dros y bar.
Wedi hanner awr roedd yna fraw i Gymru wrth i Brady basio i James McClean, ond cafodd ei ergyd ongl gul ei hatal gan draed y golwr, Danny Ward.
Roedd yna dacl wych gan Rodon i atal Adam Idah rhag anelu am y gôl.
Wedi 39 o funudau fe gafodd Joe Morrell a Jayson Molumby gerdyn melyn yr un - Molumby am drosedd yn erbyn Morrell, a chosb i'r Cymro am ei gicio mewn ymateb.
Yn ôl sylwebwyr, roedd y gic mor gadarn nes bod Morrell yn ffodus i beidio cael ei ddanfon o'r maes.
Cafodd ergyd gan Daniel James ei hatal wrth i'r hanner cyntaf ddirwyn i ben, gyda'r gêm yn parhau'n ddi-sgôr. Doedd 'na ddim eilyddio ar ddechrau'r ail hanner ond mi roedd hi wedi dechrau tywallt y glaw.
Gôl i Gymru
Wnaeth pethau ddim gwella rhyw lawer i Gymru ar ddechrau'r ail hanner er bod ymdrech Bale yn addawol ond roedd angen mwy o nerth a gwaethygu wnaeth y sefyllfa wedi i Ben Davies gael cerdyn melyn am faglu Jayson Molumby.
Fe newidiodd pethau i Gymru pan ddaeth Kieffer Moore i'r cae a thrwy hynny roedd Cymru yn cadw amddiffynwyr cryfaf Iwerddon yn brysur.
Wedi 66 munud fe ddaeth achubiaeth i Gymru wedi i David Brooks benio'r bêl i'r gôl.
Roedd Iwerddon yn ymosod yn rymus wedyn ond fe gawsont ddau gerdyn melyn wedi i Jason Knight a Jeff Hendrick droseddu.
Roedd Cymru yn amddiffyn yn dda ar ddiwedd y gêm ond roedd digon o hyder gan y Gwyddelod a bu bron iawn i'w cic gornel lwyddo.
Ar ddiwedd y gêm roedd yna fwy o newyddion drwg i Weriniaeth Iwerddon wedi i Jeff Hendrick orfod gadael wedi tacl beryglus ar Tyler Roberts.
Y sgôr terfynol Cymru 1-0 Gweriniaeth Iwerddon.
Bydd gêm nesaf Cymru, sydd ar frig Adran B, Grŵp 4 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, nos Fercher yn erbyn Y Ffindir. Bydd gêm gyfartal, bryd hynny, yn sicrhau bod Cymru yn cwblhau'r gystadleuaeth ar frig y grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020