Cymru 0-0 Yr Unol Daleithiau

  • Cyhoeddwyd
Chris GunterFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chris Gunter yn ennill ei gap rhif 98 oedd capten Cymru

Gyda'r rhan fwyaf o chwaraewyr sy'n ddewis cyntaf i Gymru yn cael eu gorffwyso, di-sgôr oedd hi yn erbyn yr Unol Daleithiau mewn gêm ddi-gyffro yn Abertawe.

Y dirprwy reolwr Robert Page oedd wrth y llyw yn absenoldeb Ryan Giggs, ac o leiaf fe lwyddodd ei dîm i gadw llechen lan.

Roedd hyn er i'r Unol Daleithiau gael y gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf.

Fe wellodd Cymru wedi'r egwyl, gyda Brennan Johnson yn dod yn agos i sgorio yn ei gêm gyntaf ar ôl dod ymlaen fel eilydd.

Fe wnaeth Danny Ward ddau arbediad da i rwystro Sebastian Lletget ac Ulysses Llanez ond mewn gwirionedd ni wnaeth yr un o'r ddau dîm ddigon i haeddu buddugoliaeth.

Roedd Page, pennaeth tîm dan-21 oed Cymru, wedi enwi tîm oedd yn dangos naw o newidiadau o'r tîm wnaeth guro Bwlgaria mis yn ôl.

Y nod oedd rhoi cyfle i rai chwaraewyr sydd ar gyrion y tîm cyntaf i sicrhau lle yn y garfan ar gyfer yr Ewros, ond hefyd i orffwyso rhai'r o'r prif chwaraewyr ar gyfer y gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar 15 a 18 Tachwedd.