Beiciwr modur ifanc yn marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur ifanc wedi marw o'i anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Y Fflint.
Roedd Andrew Philip Borthwick yn 18 oed ac o Bentre Helygain, ger Treffynnon.
Roedd ei feic modur mewn gwrthdrawiad â char ar yr A548 ym mhentref Bagillt fore Gwener.
Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i'w deulu.
"Mae angen i ni nawr gadarnhau be yn union ddigwyddodd felly rwy'n erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad gysylltu â ni," meddai'r Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.
"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu oedd yn teithio ar hyd yr A548 cyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 11.39".