Penwythnos cyntaf prysur wedi'r clo byr yn 'bryder'
- Cyhoeddwyd
Mae ciwiau mawr tu allan i siopau a bwytai ar y penwythnos cyntaf wedi'r cyfnod clo byr yn achosi "pryder", medd un o uwch swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae cyfarwyddwr digwyddiadau, Dr Giri Shankar, mae gofyn i bobl newid y ffordd y maen nhw'n siopa tra bo'r ymdrechion yn parhau i leihau lledaeniad y feirws.
Daeth ei sylwadau wrth i 16 o farwolaethau pellach gael eu cofnodi yng Nghymru, a 1,333 o ganlyniadau coronafeirws positif.
Mae ffigyrau'r cyfnod 24 awr ddiweddaraf yn dod â chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 2,207, a chyfanswm yr achosion Covid-19 ers dechrau'r pandemig i 66, 214.
"Rydym yn poeni weithiau pan rydym yn gweld ciwiau gymaint yn fwy tu allan i fwytai, canolfannau siopa, tafarndai, bariau a chaffis," meddai Dr Shankar.
"Rhaid inni gofio: byddwn ni'n gweld effaith yr holl gysylltiadau 'na sy'n digwydd nawr yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, os rydyn ni am gael cyfnod gwirioneddol ddiogel a dymunol o gwmpas y Nadolig gyda'n hanwyliaid a'n ffrindiau, rhaid i ni weithredu nawr."
Galw rhyfeddol - ond angen cydnabod heriau
Mae'r penwythnos cyntaf ers diwedd y 'clo tân' byr wedi bod yn rhyfeddol o addawol, yn ôl Adrian Field o'r corff FOR Cardiff, sy'n cefnogi busnesau yng nghanol y brifddinas.
"Mae wedi bod yn wirioneddol bositif," meddai. "Rwy'n meddwl bod lefel y galw wedi synnu rhai o'n haelodau.
"Rwy'n credu bod galw mewn pentyrru wedi'r clo tân... ond mae'r [busnesau] wedi bod yn ardderchog o ran bod yn barod ac agor yn ddiogel."
Ychwanegodd bod "angen cydnabod bod pethau'n wahanol nawr, yn nhermau capasiti a mwy o achosion o orfod ciwio tu allan".
"Yr wythnos hon byddwn ni'n siarad â gwahanol bobl [gan ofyn] a ydyn ni'n sicrhau fod pobl yn gallu dod i mewn yn ddiogel, oes yna drafferthion trafnidiaeth posib, oes yna unrhyw heriau ciwio na chafodd eu rhagweld."
'Rhaid siopa mewn ffordd wahanol'
Dywed Dr Giri Shankar bod angen siopa'n wahanol eleni, gan "stagro'r amser siopa, os yn bosib, ac osgoi'r oriau brig efallai - defnyddio dulliau eraill fel siopa ar-lein neu wasanaeth clicio a chasglu.
"Rydym wedi arfer siopa gyda'r holl deulu... os nad yw hynny'n angenrheidiol, dim ond y bobl sy'n gwbl hanfodol ddylai teithio."
Mae Dr Shankar hefyd yn argymell gwneud rhestr siopa "i osgoi teithio'n ôl a blaen" ar ôl anghofio prynu rhywbeth neilltuol.
Dywedodd Pennaeth Consortiwm Masnachu Cymru, Sara Jones: "Wedi ychydig wythnosau anodd, mae'n codi'r galon i weld siopau'n ailagor yr adeg dyngedfennol hon o'r flwyddyn.
"Rydym bellach yng nghyfnod masnachu hollbwysig y Nadolig, sy'n gyfystyr â thros 20% o'r gwerthiant manwerthu.
"Mae masnachwyr wedi cael blwyddyn anodd - byddan nhw'n gobeithio bod pobl yn dod allan a chefnogi siopau'r Stryd Fawr ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020