Y cyfnod clo byr yn dod i ben yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bydd tafarndai, tai bwyta, campfeydd a busnesau eraill yn agor ddydd Llun wedi'r cyfnod clo byrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tafarndai, tai bwyta, campfeydd a busnesau eraill yn agor ddydd Llun wedi'r cyfnod clo byr

Mae'r cyfnod clo byr 17 diwrnod yng Nghymru bellach ar ben ac mae rheoliadau newydd wedi dod i rym.

O ddydd Llun ymlaen mae hawl gan bobl i deithio i unrhyw le o fewn Cymru ac mae hawl gan ddwy aelwyd ffurfio swigen.

Bydd busnesau a wnaeth orfod cau yn ystod y cyfnod clo byr yn ailagor.

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae angen inni i gyd ystyried ein bywydau ein hunain a beth allwn ni i gyd ei wneud i ddiogelu ein teuluoedd.

"Mae angen inni roi'r gorau i feddwl beth yw'r eithaf y gallwn ei wneud o fewn y rheolau a'r rheoliadau."

'Ar ein gwyliadwraeth'

Mae Ceredig Davies yn gynghorydd sir ac yn berchen ar siop anrhegion Mona Lisa yn nhre Aberystwyth.

Wedi iddo gael ei holi am ei bryderon fod pobl eraill o Gymru yn gallu teithio i Aberystwyth - tre mewn sir lle nad oes llawer o achosion, dywed fod hynny yn ei boeni.

"Rwy'n edrych ar ardaloedd fel cymoedd de Cymru lle mae nifer o achosion o Covid a gyda phob parch rwy'n gobeithio y bydd y bobl yn aros yno," meddai.

"Ry'n am gadw y ffigyrau yma yn isel."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Ceredig Davies, sy'n berchen ar siop yn Aberystwyth, yn poeni y bydd pobl o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion o'r haint yn dod i'r dre

Ychwanegodd: "Er bod y cyfnod clo pythefnos ar ben does yna ddim rheswm i ni fod yn fodlon, bydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus a chadw at y rheolau."

Wrth sôn am ei fusnes dywed fod pryderon am gyfnod clo arall cyn y Nadolig yn ei gwneud hi'n anodd iddo wybod faint o stoc i brynu i'w siop.

Dywed hefyd bod cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru yn gymhleth sy'n golygu "nad yw rhai pobl yn ufuddhau iddyn nhw".

'Mynd o dŷ i dŷ'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Kate Wingfield sy'n drinwraig gwallt symudol yn cyfyngu ei gwaith i un sir ac ond yn ymweld â phedwar cwsmer

Mae Kate Wingfield o Lanharan yn Rhondda Cynon Taf yn trin gwallt cwsmeriaid mewn amrywiol gartrefi a dywed ei bod yn eithaf nerfus am ailddechrau'r gwaith.

"Rhaid i chi fod yn hynod o ofalus," meddai.

"Bydda' i'n mynd i lefydd lle nad oes hawl gan aelodau eraill o'r teulu fynd iddynt. Rwy'n nerfus ond byddaf yn gwisgo masg a visor ac yn diheintio.

"Mae mynd o dŷ i dŷ yn fy mhoeni i braidd," meddai, gan ychwanegu na fydd hi'n mynd i sir arall ac y bydd ond yn gweld pedwar cwsmer y dydd.

Y rheoliadau newydd

O ddydd Llun ymlaen bydd hawl gan ddau deulu i ffurfio swigen a chwrdd yng nghartrefi ei gilydd.

Bydd hawl gan 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu mewn a bydd 30 yn gallu gwneud hynny y tu allan - cyn belled â bod pawb yn ymbellhau'n gymdeithasol, yn diheintio ac yn ufuddhau i fesurau diogelwch eraill.

Bydd grwpiau o hyd at bedwar o bobl o wahanol aelwydydd yn gallu cwrdd y tu mewn i dafarn, gaffi neu dai bwyta ond bydd yn rhaid ufuddhau i'r mesurau diogelwch.

Fe fydd pobl sy'n byw yng Nghymru yn cael mynd ar wyliau yr ochr yma i Glawdd Offa unwaith yn rhagor.

Fydd hi ddim yn bosib teithio dramor dim ond os yw'r daith yn gwbl hanfodol.

Dywedodd Mr Drakeford ar raglen y Post Cyntaf fore Llun bod arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd y cyfnod clo byr yn cyflawni ei nod o gael yr haint dan reolaeth.

"Bydd y ffigyrau ddim yn dod mas am wythnos neu ddwy ar ôl y cyfnod, ond mae hyder gyda ni ar ôl gweld beth sydd gyda ni ar hyn o bryd - ni wedi llwyddo i ddechrau - ond jest dechrau yw e - tynnu coronafeirws yn ôl," meddai.

"Beth ni'n neud heddiw yw cyflwyno set newydd o reoliadau cenedlaethol - ac mae hyn yn symlach na beth oedd gyda ni pan oedden ni yn dibynnu ar nifer fawr o bethau lleol."

Ond ychwanegodd nad yw'r llywodraeth wedi diystyru cymryd camau lleol eto yn y dyfodol.

Gobaith ar gyfer y Nadolig

"Mae coronafeirws yn ein taro ni yn y llefydd yn ein bywydau sydd mor bwysig - bod gyda theulu ac yn y blaen," ychwanegodd

"Ond mae'r wyddoniaeth yn glir. Mae pobl - pan maen nhw yn cwrdd gyda'i gilydd - dyna lle mae'r argyfwng coronafeirws yn cynyddu, a dyna pam ni yn trio perswadio pobl.

"I fi y peth pwysicaf yw cael un cynllun dros y Deyrnas Unedig i gyd [ar gyfer y Nadolig].

"Cawson ni gyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Michael Gove a phrif weinidogion Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac i fi dyna'r ffordd orau i'w wneud e - un cynllun i ni gyd."

Cyfyngiadau lleol a rhagor o brofi?

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi awgrymu y dylid cael cyfyngiadau lleol a rhagor o brofi mewn ardaloedd ble mae achosion yn uchel.

Dywedodd y Ceidwadwyr bod angen "mesurau lleol" er mwyn arafu lledaeniad Covid-19 er mwyn osgoi'r angen am gyfyngiadau cenedlaethol.

Ychwanegodd Plaid Cymru eu bod eisiau strategaeth "cyflymach a chryfach" ar gyfer profion, a chael y gallu i brofi pawb mewn ardaloedd ble mae nifer o achosion, fel yr hyn sy'n cael ei dreialu yn Lerpwl.

Dywedodd Mr Drakeford yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun nad yw wedi diystyru gosod mesurau lleol eto yn y dyfodol, ond mai system o gyfyngiadau cenedlaethol fydd yn cael ei ddefnyddio am y tro.