Teuluoedd yn 'dibynnu' ar ofal hosbis am seibiant

  • Cyhoeddwyd
gofal plantFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 94% o deuluoedd yn dweud fod gwasanaethau seibiant dros dro yn hanfodol iddyn nhw, yn ôl arolwg newydd gan ddau o hosbisau plant Cymru.

Fe ymunodd Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith gyda'i gilydd i holi pobl ifanc a'u teuluoedd beth sydd ei angen arnyn nhw i fyw'r bywyd gorau y gallan nhw.

Nawr maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar farn y teuluoedd ac i gyd-weithio ymhellach i greu dyfodol mwy cynaliadwy i'r gwasanaethau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi rhoi £1.5m o gyllid brys i'r hosbisau plant a'u bod yn "parhau i weithio gyda hosbisau i ddeall eu gofynion cyllido yn y dyfodol".

Fe wnaeth dros 130 o deuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau'r ddwy hosbis ymateb i'r holiadur.

Dywedodd y mwyafrif llethol mai dim ond y canolfannau yma oedd yn cynnig y gofal priodol i'w plant a fyddai wedyn yn eu caniatáu nhw i gael 'ysbaid angenrheidiol'.

"Mae'r ymateb i'r adroddiad yn anhygoel," meddai Angharad Davies, pennaeth gofal Tŷ Gobaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Davies yn teimlo bod teuluoedd angen rhannu eu profiadau er mwyn i bobl wrando

"Y prif anghenion yw gofal ysbaid, a beth sydd yn dod ar draws [yn yr arolwg] yw faint mae teuluoedd yn ddibynnol ar hosbis.

"Mae 85% o'r teuluoedd yn dweud bod y gefnogaeth mae nhw yn cael gan hosbis yn hanfodol, ac mae jyst yn reit ofnus bod y teuluoedd 'ma mor dibynnol ar wasanaeth sydd mor ddibynnol fel elusen."

Dywedodd 92% o'r rheiny a gafodd eu holi eu bod nhw wedi profi caledi ariannol o ganlyniad i salwch eu plant.

Roedd dwy ran o dair o'r teuluoedd yn dweud nad oedden nhw'n gallu cymryd seibiant pan oedd ei angen arnynt.

Dywedodd 92% o'r rhieni a holwyd hefyd bod cael noson dda o gwsg yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw.

Stori Bedwyr

Mae gan Bedwyr y cyflwr geneteg Syndrome Coffin-Siris, sy'n golygu bod ganddo lawer o anghenion ychwanegol.

Mae'r bachgen pump oed yn cael pedwar sesiwn y flwyddyn yn Nhŷ Gobaith ac yn ôl ei fam mae'n "adnodd hollol wych" i'r teulu cyfan wrth iddyn nhw helpu ei mab pump oed i ymdopi gyda'i gyflwr.

"Mae'r ychydig ddyddiau yn yr hosbis yn hollol bwysig," meddai Nerys Haf Davies o Lanrwst.

"'Di o methu llyncu yn iawn felly mae ganddo fo peg yn ei fol - sy'n golygu bod o'n cael diod trwy hwnnw.

"Mae'n neis peidio cael y gofynion arno ni fel teulu i neud yr holl bethau hefo Bedwyr, bod ni yn cael ymlacio, ddim gorfod meddwl amdan y bwydo nesa' a pwy sy'n mynd i neud hwnnw.

"Felly mae'r seibiant yn Tŷ Gobaith yn hollol lyfli. Hefyd gan fod Bedwyr yn cael y gofal gwych yma 'da ni'n saff adre yn gallu ymlacio yn gwybod bod Bedwyr yn cael gofal hollol dda yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r seibiant y mae mab Nerys Haf Davies yn ei dderbyn yn hosbis Tŷ Gobaith yn hollbwysig, meddai

Ychwanegodd: "Mae'n iawn i bobl proffesiynol sôn am be sydd angen a ballu, ond i glywed o ran ochr ni fel teuluoedd mae o yn hollol bwysig achos ni ydi'r bobl sy'n mynd drwyddo fo.

"Ni 'di'r bobl sy'n byw hyn o ddydd i ddydd, ac wrth gwrs mae anghenion bob teulu yn wahanol, a hyn sy'n neis am yr adroddiad mae o yn ymateb i'r ffordd mae bob teulu yn byw ei bywydau hefo plant hefo anghenion.

"Mae'r adroddiad yn wych achos mae o yn rhoi barn teuluoedd, ond dim jyst teuluoedd, mae'n rhoi barn y plant hefyd. Mae hynny'n hollol wych achos does dim byd gwell na chael barn rheini sy'n defnyddio'r adnodd."

'Anhygoel o bwysig'

Dywedodd Angharad Davies o Dŷ Gobaith bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud pob dim o fewn eu gallu i roi cymorth i'r teuluoedd.

"Be 'da ni isio gan y llywodraeth ac awdurdodau lleol ydy i weithio hefo ni - a bod yr adroddiad yma yn siapio sut ydyn ni yn neud penderfyniadau a beth ydyn ni yn cynnig i deuluoedd," meddai.

"'Di o ddim yn adroddiad hawdd i ddarllen. Mae'r teuluoedd yma wedi rhannu eu profiadau, a dwi'n teimlo bod y teuluoedd angen rhannu eu profiadau er mwyn i bobl wrando."

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hosbisau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau anhygoel o bwysig.

"Rydym wedi dyrannu hyd at £1.5m o'r cyllid brys o £6.3m a gyhoeddwyd ar gyfer hosbisau ym mis Ebrill 2020 i gefnogi hosbisau plant.

"Rydym wedi ymestyn argaeledd y cyllid o chwech i 12 mis ac yn parhau i weithio gyda hosbisau i ddeall eu gofynion cyllido yn y dyfodol."