'Mwy o bwysau ar hosbisau' o achos Covid-19

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgynghorydd gofal lliniarol yn dweud fod y pandemig coronafeirws wedi rhoi mwy o bwysau ar hosbisau yng Nghymru wrth i'r galw am eu gwasanaeth gynyddu.

Cyn y pandemig roedd hosbisau elusennol yng Nghymru yn rhoi gofal i bron i 13,000 o bobl, a 700 o'r rhain yn blant.

Mae hyn tua hanner y 25,000 o bobl sydd yn debygol o fod angen gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru.

Ers cychwyn yr argyfwng coronafeirws mae'r gofynion am help gan yr hosbisau wedi cynyddu ac wedi newid medd elusennau.

Gwelwyd cynnydd dramatig yn y galw am ofal yn y cartref, gyda 66% o arweinwyr hosbis yn nodi cynnydd yn y nifer o gyfeiriadau at wasanaethau hosbis yn y gymuned.

'Popeth wedi newid'

Mae James Davies yn ymgynghorydd gofal lliniarol yn Hosbis y Ddinas, Caerdydd, ac mae'r pandemig wedi golygu newidiadau mawr yn ei waith bob dydd.

"Ma' popeth wedi newid, mae'r gymuned yng Nghaerdydd wedi newid, ac mae sut mae iechyd a gwasanaethau eraill yn gweithio wedi newid," meddai.

"Mae rhaid i ni newid gyda hynny. Dros y wlad mae mwy o bwysau ar yr hosbisau gyda mwy o bobl yn cael amser mwy anodd i ddod o hyd i rywun sy'n gallu helpu."

Dywedodd fod gwasanaethau yn dal i fynd allan i dai pobl a bod pobl yn gweld hyn fel "rhywbeth sydd yn neis i'w weld, yn hytrach na bod yn rhywbeth negatif."

Disgrifiad o’r llun,

James Davies yn Hosbis y Ddinas, Caerdydd

Ond mae'r galw am help a gofal yn cynyddu, meddai:

"Mae mwy a mwy o referrals gyda ni trwy'r pandemig, a mwy o bobl ddim yn gallu cael ymgynghoriad o lefydd eraill."

Mae'r hosbis yn gofalu am gleifion gyda Covid-19, ond "mae heintiau eraill dal mas yno" dywedodd.

"Mae pobl yn dal i diodde â chanser a salwch eraill. Mae pobl yn gorfod cael gofal, a dyna lle i ni yn dod i mewn."

Yn ôl Catrin Edwards, rheolwr polisi ac eiriolaeth Hospice UK yng Nghymru mae "gofal lliniarol a diwedd oes wedi bod yn fwy amlwg ymysg y boblogaeth yn ystod y pandemig, a nifer yn mynd trwy brofedigaeth."

O ganlyniad mae dau draean yn fwy o gyfeiriadau tuag at ofal hosbis yn y gymuned, a mwy o bobl yn cael gofal lliniarol yn eu cartrefi eu hunain, neu mewn cartrefi gofal a hybiau cymunedol.

Un her i'r hosbisau yw sicrhau eu bod yn dal i helpu y bobol fydde fel arfer yn dod i mewn i'r hosbis eu hunain ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian fel boreau coffi, sesiynau aromatherapi a cherdd, neu ar gyfer gofal mewn galar.

"Ni yn gorfod cyrraedd y bobol yna mewn ffyrdd gwahanol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Catrin Edwards, rheolwr polisi ac eiriolaeth Hospice UK yng Nghymru

Roedd Cymru eisoes yn cynnig 90% o ofal hosbis yn y cartref ond mae Covid-19 wedi golygu bod hyn wedi cynyddu eto.

Mae hynny, yn ôl Catrin Edwards yn golygu "gwneud tipyn mwy ar gyfer pob cyswllt yn y cartre' a delio â phethau fel budd-daliadau - gwaith cymdeithasol yn hytrach na jyst sôn am yr apwyntiadau meddygol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector yn ariannol hyd at £6.3m er mwyn cynnal gwasanaethau gofal diwedd oes craidd. Mae rhan o hwnnw wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal mewn galar pob hosbis, ac estyn eu gwasanaeth at unrhyw berson sydd wedi cael profedigaeth.

Yn Hobsis y Ddinas, mae hynny'n golygu estyn mas at ragor o bobol mewn ardal fwy eang. Mae'r gwasanaeth, y gofal, a'r cymorth mae nhw'n ei gynnig ar gael nawr i bobl ym Mhen-y-bont a Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â Chaerdydd.