53 achos positif wedi'u rhyddhau i gartrefi gofal
- Cyhoeddwyd
Cafodd 53 o bobl eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal yng Nghymru o fewn 15 diwrnod iddyn nhw gael prawf positif am coronafeirws ar ddechrau'r pandemig.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y rhain ymysg y 1,729 o gleifion gafodd eu rhyddhau i gartrefi rhwng Mawrth a Mai.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y gallai hyn fod wedi achosi clystyrau o achosion mewn poblogaeth fregus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am fwy o graffu ar y data er mwyn ei ddeall "yn hytrach na rhuthro i unrhyw gasgliad".
Mae ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau i lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies gan y Gweinidog Iechyd yn dangos bod cyfanswm o 167 o gleifion wedi cael eu rhyddhau i gartref gofal wedi iddyn nhw gael prawf positif rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.
Roedd dros 30% o'r rheiny wedi cael eu rhyddhau o fewn pythefnos o'r prawf positif.
Newid polisi
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod polisi Llywodraeth Cymru wedi newid erbyn 29 Ebrill, ac wedi hynny y bu'n rhaid i glaf gael prawf negatif cyn cael ei ryddhau.
Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cael prawf positif am Covid-19 hunan-ynysu am 10 diwrnod, ac mae'n rhaid i unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â nhw ynysu am bythefnos.
Mae Mr Davies wedi galw ar unrhyw ymchwiliad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig i ystyried y rhesymau dros ryddhau'r bobl hyn i ganol "poblogaeth fregus" cartrefi gofal.
Erbyn mis Mehefin roedd 28% o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru'n ymwneud â chartrefi gofal.
Dywedodd Pwyllgor Iechyd y Senedd bod cartrefi gofal wedi'u "methu'n wael" yn ystod y pandemig, bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn rhy araf i'r argyfwng a bod eu polisi tuag at brofi preswylwyr ar y dechrau yn "ddiffygiol".
Ond fe wnaeth ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddod i'r casgliad nad oedd rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal wedi cynyddu'r risg o glystyrau Covid-19 ymysg preswylwyr.
'Seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gweithio gyda'r sector gofal trwy gydol y pandemig i gefnogi cartrefi gofal gyda rheoli heintiau, mwy o staffio ble fo angen, cyngor a rhagor o nawdd i ddelio â chostau'r pandemig a PPE am ddim i gadw preswylwyr bregus yn ddiogel".
"Mae ein polisi profi mewn cartrefi gofal wedi bod yn seiliedig ar y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf. Wrth i ni ddysgu mwy am coronafeirws mae ein polisi profi wedi newid, fel yw'r achos ledled y DU.
"Mae holl staff cartrefi gofal yn cael eu profi'n wythnosol.
"Ry'n ni wedi comisiynu rhagor o graffu ar y ffigyrau er mwyn deall yr hyn mae'r data yn dweud wrthym yn hytrach na rhuthro i unrhyw gasgliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020