Trafod beth ddaw yn lle arian o'r Undeb Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod sefydliadau sy'n dibynnu ar gyllid Ewropeaidd yn haeddu sicrwydd gan San Steffan.
Bydd gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynigion ar sut ddylai grantiau gael eu dosbarthu ar ôl i'r cyfnod pontio orffen ar 31 Rhagfyr.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU ddatgelu manylion ynglŷn â chronfa newydd yn dilyn adolygiad gwario'r Canghellor ar 25 Tachwedd.
Ond mae 'na gwynion am oedi, ac fe ddywedodd Jeremy Miles, gweinidog pontio Cymru, y gallai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud cyhoeddiad "fisoedd yn ôl".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y byddan nhw'n "parhau i weithio'n agos gyda'r ddeddfwriaeth ddatganoledig yng Nghymru... wrth ddatblygu'r gronfa".
Dywedodd Mr Miles fod Llywodraeth Cymru wedi "dysgu gwersi" o'r ffordd y mae wedi gwario biliynau o bunnoedd o goffrau'r Undeb Ewropeaidd ers 2000.
Mae llawer o'r arian wedi mynd i ranbarth gorllewin Cymru a'r cymoedd sydd, fel un o ranbarthau lleiaf llewyrchus yr Undeb Ewropeaidd, wedi derbyn y lefel uchaf o gyllid tair gwaith.
Yn ôl ymchwil gan Dŷ'r Cyffredin, byddai wedi bod yn gymwys eto pe bai'r DU wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ond fe wrthododd Mr Miles fod arian wedi'i wastraffu, gan ddweud fod grantiau wedi creu swyddi a helpu i hyfforddi miloedd o bobl.
Dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion i warchod arian a pharchu datganoli.
"Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod prosiectau ledled Cymru, gyda llai na 50 diwrnod i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio, yn haeddu sicrwydd," meddai wrth BBC Cymru.
'Cyfle i wneud pethau'n wahanol'
Wrth ymgyrchu ar gyfer arweinyddiaeth ei blaid yn 2019, dywedodd Boris Johnson ei fod am weld "dylanwad cryf gan y Ceidwadwyr" dros sut mae'r arian yn cael ei wario.
Byddai deddfwriaeth gerbron y Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd yn rhoi'r hawl i'w lywodraeth wario mewn meysydd datganoledig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mewn datganiad: "Bydd Cronfa Rhannu Llewyrch y DU yn clymu'r DU gyfan tra'n taclo anghyfartaledd ac amddifadedd ar draws y pedair gwlad.
"Am y tro cyntaf mewn degawdau, mae gennym gyfle i wneud pethau'n wahanol a thargedu ein buddsoddiad at y rhai sydd ei angen fwyaf.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru a phartïon eraill wrth i ni ddatblygu'r gronfa. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn dilyn yr Adolygiad Gwariant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020