Ystyried gohirio etholiadau'r Senedd am chwe mis

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio ar ddeddfwriaeth allai weld oedi Etholiadau'r Senedd yn 2021 o hyd at chwe mis fel "dewis olaf" i ddelio gyda coronafeirws.

Bydd gweinidogion yn ystyried cyflwyno'r ddeddf yn y flwyddyn newydd "os fydd y sefyllfa wedi'r Nadolig yn awgrymu bod angen gwneud hyn fel dewis olaf".

Ond mae'r prif weinidog yn dweud mai "bwriad clir" y llywodraeth yw "cynnal yr etholiadau ar 6 Mai y flwyddyn nesaf".

Daw hyn wedi i grŵp traws-bleidiol oedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer yr etholiad fethu â chytuno ar y mater.

Mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi oedi'r etholiad os fydd sefyllfa Covid-19 yn "ddifrifol iawn".

Ond mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn dweud fod gwledydd eraill wedi pleidleisio yn ystod y pandemig.

Wedi trafodaethau gydag arweinwyr pleidiau a gweinidogion Llywodraeth Cymru, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod swyddogion yn gweithio ar fesur drafft fyddai'n rhoi hawl i'r Llywydd oedi'r etholiad am hyd at chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai'n rhaid i "fwyafrif mwy" o Aelodau'r Senedd - 40 allan o 60 - orfod pleidleisio o blaid cyn y gallai hynny ddigwydd.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd: "Rydym yn canolbwyntio ar alluogi'r etholiad i ddigwydd fel arfer, ond byddai'n anghyfrifol i ni beidio gwneud cynlluniau rhag ofn bod y pandemig mor ddifrifol ym mis Mai y flwyddyn nesaf fel na fyddai'n ddiogel i ni gynnal etholiad.

"Rwy'n credu fod rhaid i ni ddilyn pob trywydd i alluogi pobl i ddefnyddio'u hawl ddemocrataidd yn wyneb conorafeirws."

Mae mesurau eraill sydd o dan ystyriaeth yn cynnwys:

  • Mesurau i annog pleidleiswyr bregus ac eraill i ystyried gwneud cais am bleidlais drwy'r post, ac i wneud y cais yn fuan;

  • Darparu mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, ynghyd â phleidleisiau post a dirprwyol;

  • Mesurau i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio a chanolfannau cyfri yn gweithredu'n ddiogel.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Paul Davies: "Does yna ddim rheswm pam na ddylai'r etholiad gael ei gynnal ar 6 Mai o gofio fod Sbaen, Gwlad Pwyl a De Corea wedi cynnal etholiadau yn ddiogel yn ystod y pandemig.

"Ond rwy'n derbyn fod yn rhaid rhoi mesurau mewn lle i sicrhau fod yr etholiadau yma yn ddiogel."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod etholiadau wedi eu cynnal mewn gwledydd eraill gan gynnwys yr Unol Daleithiau ond "ei bod yn rhesymol ein bod ni yng Nghymru â'r gallu i ymateb i bob sefyllfa a allai godi."

Dywedodd Mark Reckless o blaid Abolish the Assembly: "Dylai fod etholiad ar 6 Mai. Ni ddylai fod yna ddeddfwriaeth i'w oedi."

Yr etholiad yma fydd y tro cyntaf i bobl 16 ac 17 oed gael pleidleisio yng Nghymru.