Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Aldershot

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth wythnos hanesyddol clwb Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth dros Aldershot.

Sicrhaodd ymdrech wych Luke Young o 20 llath ail fuddugoliaeth yn olynol i Wrecsam - eu buddugoliaeth gefn-wrth gefn gyntaf ers mis Ionawr.

Daeth buddugoliaeth ar ddiwedd wythnos lle cyhoeddwyd mai sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney fyddai perchnogion newydd y clwb.

Cafodd Jordan Ponticelli ac Young gyfleoedd da i'r tîm cartref o fewn y chwe munud agoriadol., ac nid oedd Aldershot yn cynnig fawr ddim yn eu hymdrechion.

Gorfododd cic rydd Young i Brad James wneud arbediad ar ddiwedd hanner cyntaf hawdd ei anghofio.

Rhoddodd Aldershot Wrecsam dan bwysau yn gynnar yn yr ail hanner, ac fe lwyddodd Rob Lainton i atal ymdrechion gan Harry Panayiotou a Mohamed Bettamer

Sgoriodd Young ei ail gôl o'r tymor gydag ergyd isel i roi ei ochr ar y blaen.

Ar ben arall y cae fe darodd Bettamer ymdrech ar draws y postyn.

Canlyniad penigamp ar ddiwedd wythnos gofiadwy i Wrecsam felly, sydd yn codi i'r 11fed safle.