'Prinder athrawon i wella'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg'

  • Cyhoeddwyd
Dr Alex LovellFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Alex Lovell yn trafod y cwricwlwm newydd mewn seminar ddydd Mawrth

Yr her fwyaf sy'n wynebu ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru wrth wella'r ddarpariaeth o'r Gymraeg yw "prinder athrawon sydd â'r sgiliau perthnasol", yn ôl academydd blaenllaw.

Dywed Dr Alex Lovell, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, bod angen "buddsoddiad sylweddol" mewn ail-hyfforddi athrawon a hyfforddi rhai newydd.

Mae'n galw hefyd am sicrhau mwy o gyswllt i blant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a'r iaith Gymraeg tu mewn a thu fas i'r dosbarth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd "pob dysgwr, drwy'r cwricwlwm newydd, yn gadael y system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio'r Gymraeg".

'Cyfle am agwedd newydd'

Dadl Dr Lovell yw bod angen "cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg" ac mae'n dweud bod "nifer o ddisgyblion yn gadael yr ysgol gydag ychydig iawn o afael ar yr iaith a hyd yn oed llai o awydd i barhau i astudio ymhellach".

Cafodd drafft o'r cwricwlwm newydd ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2019.

Mae disgwyl i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac ym Mlwyddyn 7 yn 2022, cyn symud i fyny at Flwyddyn 11 erbyn 2026.

Mae yna gynigion i roi mwy o bwyslais yn y cwricwlwm newydd ar yr iaith Gymraeg fel iaith gyfathrebu ac fel continwwm sengl ar gyfer dysgu Cymraeg.

Dywed Dr Lovell y byddai hyn i'w groesawu, yn hytrach na'r drefn bresennol lle mae gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu ffurf gywir ramadegol yr iaith.

Ond mae'n codi cwestiynau am y strategaeth gan ofyn: "Beth yw y disgwyliadau, a beth yw goblygiadau hyn ar gyfer addasu?"

Os yw ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu yn ysgolion dwyieithog dros amser, mae'n dweud ei bod hi'n hollbwysig fod y Gymraeg yn cael ei hymgorffori yn "ethos yr ysgol yn ogystal â'r cwricwla".

"Mae datblygu cwricwlwm newydd," meddai, "yn gyfle am agwedd newydd at y Gymraeg, nid yn unig fel pwnc gorfodol a dull o addysgu ar draws y cwricwlwm, ond hefyd trwy sicrhau ei bod hi'n iaith fyw ac yn cael ei defnyddio yn ddyddiol y tu mewn a thu allan i'r dosbarth a'r ysgol."

Gadael addysg yn 'barod a balch'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Addysg wedi bod yn glir - bydd pob dysgwr, drwy'r cwricwlwm newydd, yn gadael y system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae fframwaith y cwricwlwm yn gosod camau clir am ddatblygiad yn y Gymraeg ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

"Mae dysgu proffesiynol hefyd yn nodwedd allweddol o gynyddu gallu athrawon i addysgu Cymraeg, gan gynnwys ein Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg a chyrsiau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Mae pob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon hefyd bellach yn cynnig o leiaf 25 awr o ddysgu Cymraeg i bob athro sy'n hyfforddi."

Roedd Dr Lovell yn trafod y cwricwlwm newydd - a'r heriau a'r cyfleoedd i ysgolion cyfrwng Saesneg - mewn seminar ddydd Mawrth.