Addysg yn y cartref: Ansicrwydd am arholiadau
- Cyhoeddwyd
"I mi mae'n eithaf dryslyd gan fy mod i eisiau paratoi ac nid wyf wedi cael y wybodaeth er mwyn teimlo'n hyderus gyda'r camau nesaf y mae angen i mi eu cymryd."
Mae Lucia Kingman yn 15 oed ac yn un o fwy na 2,500 o bobl ifanc yng Nghymru sy'n cael eu dysgu gartref.
Yn wahanol i fyfyrwyr TGAU mewn ysgolion sydd yn gwybod na fyddant yn sefyll arholiadau y flwyddyn nesaf, mae Lucia yn dal i aros i glywed beth fydd yn digwydd yn ei hachos hi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod grŵp ymgynghorol yn ystyried trefniadau ar gyfer ymgeiswyr sydd yn derbyn addysg yn y catref.
Dywedodd Lucia, sy'n byw ym Mro Morgannwg, nad oedd astudio trwy gydol y pandemig yn annhebyg i'w threfn arferol, ond fe gafodd effaith, fel pan oedd yn rhaid i'r llyfrgell gau.
"Oherwydd bod llawer o'r gwaith rwy'n ei wneud yn asesiadau athrawon, mae arholiadau'n eithaf dieithr i mi i raddau," meddai.
"Mae angen i mi wneud rhywfaint o ymarfer arholiad er mwyn i mi ddod yn gyfarwydd â nhw ond mae'r ffaith nad ydw i'n gwybod a ydw i am eu heistedd ai peidio yn frawychus iawn, ac yn ychwanegu at gyfnod sydd eisoes yn llawn straen."
Mae Lucia wedi arfer cael ei hasesu gan ei thiwtoriaid ac nid oes ganddi brofiad o arholiadau.
Dywedodd ei thad, Simon: "Os yw'n ymwneud â thegwch ac eglurder yna dylai fod yn cael asesiadau athrawon fel ei holl gyfoedion yng Nghymru.
"Mae hi'n gyffyrddus â chael ei hasesu, eisteddodd ei hanes TGAU yn gynnar y llynedd a chafodd radd asesu athrawon, felly pam na all hyn fod yn wir am ei TGAU eleni?"
Mae Lucy Mebarki, tiwtor preifat Saesneg a chelfyddydau, yn teimlo bod gan diwtoriaid berthynas un i un well o lawer â myfyrwyr nag mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, ond mae'n credu y byddai arholiadau'n decach i fyfyrwyr yn y cartref.
"Gyda myfyrwyr sy'n derbyn addysg gartref... rwy'n credu mai arholiadau fyddai'r ffordd iawn iddyn nhw gael eu graddau," meddai.
Yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n anodd i Lucia yw ei bod hi'n fyfyriwr o Gymru sy'n cael ei asesu gan Oxford Home Schooling, corff dyfarnu wedi'i leoli yn Lloegr.
Dywedodd Simon: "Mae'n anghysondeb, ond rwy'n siŵr nad hi yw'r unig berson ifanc sydd yn derbyn addysg yn y cartref ag sydd yn y sefyllfa yma. Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru feddwl am bob myfyriwr yng Nghymru, nid y rhai mewn ysgolion yn unig."
Dywedodd Oxford Home Schooling ei fod yn derbyn arweiniad gan fyrddau arholi yn hytrach na'r llywodraeth a bydd gan ycyrsiau maen nhw'n ei gynnig ganolfannau arholi yng Nghymru.
Dywedodd pe bai byrddau'n penderfynu na ellid sefyll arholiadau, yna byddai'n defnyddio canlyniad gradd wedi'i chyfrifo.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein blaenoriaeth yw cefnogi pob dysgwr i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn hyderus i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu gyrfa.
"Mae grŵp cynghori annibynnol wedi'i sefydlu i ddatblygu cynigion ar gyfer asesiadau'r flwyddyn nesaf. Trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat fydd un o'r agweddau allweddol dan ystyriaeth gan y grŵp."
Dywedodd Ofqual, sy'n rheoleiddio arholiadau a chymwysterau yn Lloegr, fod llywodraeth y DU wedi "ei gwneud hi'n glir y bydd arholiadau'n cael eu cynnal yn 2021 ac y dylai'r sicrwydd hwn gael ei groesawu'n arbennig gan fyfyrwyr sy'n cael eu haddysgu gartref".
"Rydyn ni'n darparu cyngor i'r Adran Addysg ar opsiynau wrth gefn ar gyfer 2021 ar gyfer ystod o wahanol sefyllfaoedd, ac yn parhau i gael trafodaethau gyda chynrychiolwyr ysgolion a cholegau, gan gynnwys cynrychiolwyr ymgeiswyr preifat," ychwanegodd.
Dywedodd Cymwysterau Cymru fod cyhoeddiad gweinidog addysg Cymru yn ymdrin â chymwysterau TGAU, AS a Safon Uwch yng Nghymru, "nid cymwysterau gan unrhyw fwrdd arholi arall".
"Rydym yn ymwybodol o pa bynnag ddull o asesu TGAU, UG a Safon Uwch CBAC ar gyfer haf 2021, mae angen iddo ganiatáu mynediad teg i asesu.
"Mae hynny fel bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw'n astudio mewn ysgol neu goleg, neu ganolfan arholi arall, yn dal i gael eu hasesu a dyfarnu'r cymwysterau hyn, yn yr un ffordd ag y bydd dysgwyr eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019